Cod anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Cod anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Inquiry5
Ar 11 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru
ymgynghoriad ar y Cod Anghenion
Dysgu Ychwanegol drafft sy’n ofynnol o dan Adran 4 o Ddeddf Anghenion Dysgu
Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY).
Yn ystod ei waith craffu ar y Bil ADY, roedd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) yn pryderu y dylai’r Cod fod yn
ddarostyngedig i waith craffu gan y Cynulliad cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Diwygiwyd y Bil yng Nghyfnod 2 i gynnwys y weithdrefn y mae’n rhaid i
Lywodraeth Cymru ei dilyn cyn y caiff gyhoeddi’r Cod (Adran 5 o’r Ddeddf). Fel
rhan o’r weithdrefn honno, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ar fanylion y
Cod drafft. Wedi’i gynnwys ar restr o ymgyngoreion statudol ar gyfer y broses
ymgynghori honno yw “Pwyllgor perthnasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru”, sef y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) yn yr achos hwn.
Fel un o’r ymgyngoreion statudol, trafodwyd y Pwyllgor
PPIA y ffordd orau o fynd ati i graffu ar y Cod drafft er mwyn cyfrannu at
ymgynghoriad y Llywodraeth yn effeithiol, gan osgoi dyblygu gwaith yn ddiangen.
Cytunwyd y Pwyllgor i alw gweithgor ynghyd i alluogi gwaith ymgysylltu
uniongyrchol â rhanddeiliaid arbenigol i drafod manylion y Cod drafft.
Trafododd y Pwyllgor y Cod drafft â rhanddeiliaid yn ei
gyfarfod ar 13
Chwefror 2019.
Cyflwynodd y Pwyllgor ei ymateb
ffurfiol (PDF 766KB) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar 22 Mawrth
2019.
Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog yn darparu’r cefndir i ddiben y Cod ADY, a'r gwaith a
wnaed gan y Pwyllgor i graffu arno.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2018
Dogfennau
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymeradwyo'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r rheoliadau - 24 Mawrth 2021 PDF 298 KB
- Llythyr gan y Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymeradwyo'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r rheoliadau - 14 Chwefror 2021 (Saesneg yn unig) PDF 237 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol - 14 Chwefror 2021
- Ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: 22 Mawrth 2019 PDF 766 KB
- Ymateb y Pwyllgor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Atodiad PDF 705 KB