Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus

Bioamrywiaeth - Cynllun Nwyddau Cyhoeddus

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad ar fioamrywiaeth.

Cefndir

Yn ei Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (SoNaRR), daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i’r casgliad fod llawer o rywogaethau yng Nghymru yn dirywio ac nad oes unrhyw gynefin yn wirioneddol 'gydnerth'. Dangosodd adroddiad cydweithredol gan gyrff anllywodraethol, Cyflwr Natur, fod 57% o rywogaethau planhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar wedi dirywio dros y tymor hir (1970-2013) yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gryfhau ecosystemau a chynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r cyfleoedd, y blaenoriaethau a'r risgiau mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Adfer Natur hefyd a nod hwn yw mynd i'r afael â’r rhesymau sylfaenol dros ddirywiad bioamrywiaeth.

Mae rhanddeiliaid wedi pwysleisio mai'r cyfle arwyddocaol nesaf i Lywodraeth Cymru adfer a gwella bioamrywiaeth yw drwy’r polisi rheoli tir y bydd yn ei gyflwyno yn y dyfodol, yn enwedig y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad ynghylch Brexit a’n Tir.

Mae monitro bioamrywiaeth yn agwedd bwysig ar fonitro llwyddiant cynlluniau amgylcheddol. Comisiynodd Llywodraeth Cymru Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir i asesu perfformiad y cynllun. Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Raglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) i greu sail dystiolaeth gref i’w defnyddio ar gyfer dangosyddion Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), y Polisi Adnoddau Naturiol a'r Rhaglen Ddatgarboneiddio.

Yn yr ymchwiliad newydd hwn, bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn archwilio gwaith adfer bioamrywiaeth yng nghyd-destun y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig.

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad:

  • Sut y gellid cymhwyso cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i nodi yn Brexit a’n Tir, er mwyn adfer bioamrywiaeth;

·         Sut y gellid cymhwyso amryw bolisïau a deddfau cyfredol Llywodraeth Cymru ym maes adfer bioamrywiaeth at y gwaith o lunio a gweithredu’r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arferthedig; a

·         Pha wersi y gellir eu dysgu o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) i sicrhau bod cynlluniau i helpu i adfer bioamrywiaeth yn cael eu monitro a’u gwerthuso’n effeithiol?  Ym mha ffordd y dylai’r Rhaglen Monitro a Modelu ar gyfer yr Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) newydd gael ei llunio a’i gweithredu’n effeithiol at y diben hwn?

Casglu tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith ar 7 Chwefror 2019 a 21 Chwefror 2019.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan rhanddeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

Adroddiad

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru (PDF 2MB) ar 23 Hydref 2019.

Ymatebodd (PDF 188KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Rhagfyr 2019.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/12/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau