P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Wedi'i gwblhau

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The Paul Ridd Foundation, ar ôl casglu 5,654 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Paul Ridd oedd ein brawd. Roedd ganddo anableddau dysgu difrifol a bu farw yn Ysbyty Treforys yn 2009. Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amgylchiadau'n arwain at farwolaeth Paul, sef esgeulustod, diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth yn ffactorau cyfrannol a arweiniodd at farwolaeth Paul. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sy'n wynebu pobl ag awtistiaeth ac anabledd dysgu.

 

Nid yw 1 o bob 4 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol erioed wedi cael hyfforddiant ar anabledd dysgu neu awtistiaeth. Mae hyn yn annerbyniol. Hoffai dwy ran o dair gael mwy o hyfforddiant, ac mae 1 o bob 3 yn credu bod diffyg arweinyddiaeth y llywodraeth yn cyfrannu at broblemau marwolaethau y gellir eu hosgoi (ystadegau o'r arolwg a gynhaliwyd gan YouGov ar gyfer Mencap: https://www.mencap.org.uk/press-release/concerns-over-lack-clinical-training-causing-avoidable-learning-disability-deaths).

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberafan

·         Gorllewin De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i’w chau yng ngoleuni’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd, a llongyfarchodd y deisebwyr am eu gwaith wrth geisio cyflawni’r ymrwymiad hwnnw.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/01/2019.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2019