Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn
Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu.
Cylch gorchwyl:
Roedd y cylch gorchwyl
yn cynnwys ystyried y canlynol:
- Effaith ehangu'r
meini prawf cymhwystra am Fathodyn Glas yng Nghymru, ac a oes angen ehangu
pellach ar y meini prawf;
- Gweithredu ymarferol
a chysondeb o ran cynllun y Bathodyn Glas ledled Cymru, gan gynnwys
asesiadau, ffioedd a gorfodi; ac
- Y gefnogaeth a'r
wybodaeth sydd ar gael i bobl sy'n gwneud cais am fathodyn glas yng
Nghymru.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor.
Gellir gweld tabl ohonynt isod. Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc
hwn.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, agenda a chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Miranda Evans, Rheolwr
Polisi a Rhaglenni, Anabledd Cymru |
|||
2. Samuel Stone, Swyddog
Materion Allanol, Cymdeithas Awtistiaeth Cymru Huw Owen, Swyddog Polisi, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru Helen Powell, Cynghorydd Cymorth Arbenigol, Rhaglen Cyngor ar
Fudd-daliadau, Cymorth Canser Macmillan Cymru Martin Fidler Jones, Swyddog Polisi, Gofal Canser Tenovus |
|||
3. Valerie Billingham, Rheolwr
Polisi ac Ymgyrchoedd, Age Cymru Kate Young, Cyfarwyddwr, Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag
Anableddau Dysgu |
|||
4. Andrew Meredith, Arweinydd
Tîm Gwasnaethau i Gwsmeiriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Rhys J. Page, Uwch Reolwr Busnes, Cyngor Sir Caerfyrddin |
|||
5. Llywodraeth Cymru Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth |
|
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Gynllun
y Bathodyn Glas yng Nghymru - Cymhwystra a Gweithredu (PDF, 893KB)
ddydd Llun 8 Gorffennaf.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC,
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae trefniadau gwahanol ar draws y 22 o gynghorau yn
golygu fod y cynllun yn cael ei weithredu’n anghyson ar draws Cymru. Dylai mynd
i’r afael â hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, fel
y gall pawb gael gwasanaeth o ansawdd, waeth ble maent yn byw. Rhaid i’r system
fod yn addas i’r diben o ystyried ei phwysigrwydd i’n cymunedau.”
Gellir
darllen Adroddiad Spark byrrach yma.
Cyhoeddodd
y Llywodraeth ei
hymateb (PDF, 238KB) ac ymateb
ychwanegol (PDF, 118KB) ar 9 Hydref 2019.
Cynhaliwyd
dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher 16 Hydref 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2019
Dogfennau
- Fideo Spark MP4 24 MB
- Nodyn cryno o'r grwpiau ffocws PDF 240 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth – 15 Hydref 2019 PDF 169 KB
- Llythyr at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth - 4 Hydref 2019 PDF 84 KB
- Llythyr at Dawn Bowden AC - 30 Awst 2019 (Saesneg yn unig) PDF 79 KB
- Llythyr gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru - 23 Mai 2019
- Llythyr gan Macmillan a Tenovus - 14 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 436 KB Gweld fel HTML (7) 22 KB
- Llythyr at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth - 8 Mai 2019 PDF 91 KB
- Llythyr gan Gymdeithas Alzheimer Cymru – 1 Mai 2019 (Saesneg yn unig) PDF 268 KB
Ymgynghoriadau
- Ymgynghoriad ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (Wedi ei gyflawni)