NDM6909 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai

NDM6909 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Tai

NDM6909 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod nad yw nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn ddigonol i ateb y galw.

2. Yn gresynu:

a) bod mwy na 27,000 o gartrefi gwag yng Nghymru ar hyn o bryd; a

b) bod prisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru fwy neu lai dros 6 gwaith yr enillion cyfartalog oherwydd prinder cartrefi.

3. Yn nodi papur gwyn Ceidwadwyr Cymru, 'Cartrefu Cenedl', sy'n cyflwyno strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael ag argyfwng tai Cymru a darparu tai addas i bawb.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cydnabod yr angen i adeiladu o leiaf 100,000 o gartrefi rhwng 2021 a 2031; a

b) rhoi mwy o hyblygrwydd i gymdeithasau tai fel y gallant ddatblygu amrywiaeth o ddeiliadaethau i ateb y galw am dai fforddiadwy.

Ceidwadwyr Cymru - Cartrefu Cenedl

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a) y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai gan Lywodraeth Cymru.

b) bod angen asesiad newydd o’r angen a’r galw am dai, yn seiliedig ar y data diweddaraf a’r amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf.

2. Yn croesawu:

a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon, sydd ar y trywydd iawn ac a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â’r sector tai.

b) cyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru a’r trothwy cychwynnol o £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl, sy’n golygu nad yw’r rhan fwyaf o brynwyr tai, a mwyafrif y prynwyr tro cyntaf, yn talu treth o gwbl pan fyddant yn prynu cartref.

3. Yn cydnabod ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i dai cymdeithasol, sydd wedi parhau’n flaenoriaeth sylfaenol, gan gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu ein stoc bresennol o dai cymdeithasol, yn wahanol i Loegr.

4. Yn nodi’r hyblygrwydd sydd ar gael i gymdeithasau tai er mwyn iddynt allu datblygu ystod o ddeiliadaethau i fodloni’r galw am dai fforddiadwy.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘sy'n cael eu hadeiladu’, mewnosoder ‘yn y sector tai cymdeithasol’.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt (b) a rhoi yn ei le:

bod cyflogau isel, cyflogaeth ansicr a rhenti uchel yn rhwystrau sylweddol i berchnogaeth cartrefi.

Gwelliant 4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bod digartrefedd wedi cynyddu’n sylweddol, a bod hyn wedi costio llawer mwy i wasanaethau cyhoeddus nag y byddai wedi ei gostio i atal digartrefedd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a)  cefnogi cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i gynyddu’r stoc tai cymdeithasol drwy wneud y gorau o’u gallu i gael mynediad at gyllid at y diben hwn, gan gynnwys drwy bwerau benthyca Llywodraeth Cymru;

b) gweithredu argymhellion adroddaid Crisis, ‘Everybody In: How to end homelessness in Great Britain’;

c) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys gofyniad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall datblygiadau newydd ddod yn gymunedau cynaliadwy; a

d) sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol yn cynnwys cyfran sylweddol fwy o dai cymdeithasol.

Everybody In: How to end homelessness in Great Britain (Saesneg yn unig)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2021

Angen Penderfyniad: 9 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS