Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd

Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2014 ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyhoeddi eu hadroddiad ar y cyd ym mis Mehefin 2013, ac mae wedi bod yn cadw golwg ar y sefyllfa ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2013.

Mewn gwaith dilynol, ymchwiliodd y Pwyllgor hwnnw hefyd i drefniadau llywodraethu ym myrddau iechyd Cymru yn gyffredinol, ac mae ei adroddiad, Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PDF 803KB) (a gyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2016), yn cynnwys casgliadau'r Pwyllgor ynglŷn â threfniadau llywodraethu byrddau iechyd, y sefyllfa bresennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r dystiolaeth a gasglodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ynghyd â'i safbwyntiau am y sefyllfa ariannol ym maes iechyd. Ymatebodd Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (PDF 869KB) i’r adroddiad ym Mehefin 2016.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr yng ngwanwyn 2019 i ganfod pa bethau a ddysgwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a hefyd i drafod gwelliannau llywodraethau ehangach yn y byrddau iechyd.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y Pwyllgor ac fe’u rhoddwyd ar waith. Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiadau rheolaidd ar y gwelliannau a wnaed yn y bwrdd iechyd fel rhan o’r broses Mesurau Arbennig. 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Llywodraeth Cymru

 

Dr Andrew Goodall
Simon Dean
Jo Jordan

Alan Brace

Dydd Llun 28 Ionawr 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Cyngor Iechyd Cymuned

 

Geoff Ryall-Harvey
Mark Thornton
Garth Higginbotham

Dydd Llun 4 Chwefror 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Mark Polin
Gary Doherty
Andy Roach
Deborah Carter

Dydd Llun 4 Mawrth 2019

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2019

Dogfennau