P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach
P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach
P-05-855
Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Endaf Cooke &
Gavin Owen, ar ôl casglu 1,132 llofnod
– 822 ar bapur a 310 ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i
adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach fel bod busnesau sydd â gwerth
ardrethol o £10,000 neu lai yn cael disgownt o 100 y cant. At hynny, bod unrhyw
fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,000.01 a £20,000 yn cael
disgownt/rhyddhad ar system raddedig rhwng 0 a 100 y cant.
Gwybodaeth ychwanegol
Ar hyn o bryd nid yw'r system
rhyddhad ardrethi busnesau bach ond yn cynnig disgownt o 100 y cant i fusnesau
sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000. Ond, yn Lloegr, mae busnesau bach sydd â
gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael disgownt o 100 y cant.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Arfon
·
Gogledd Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn
anodd gweld sut y gallai'r fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt
gan y deisebwyr.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 29/01/2019.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch
fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019