P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Emily Jones, wedi iddi gasglu 121 o lofnodion ar-lein a 165 ar bapur, sef cyfanswm o 286 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd drwy Gymru ac y caiff y cynnwys ei adolygu bob blwyddyn gan fwrdd o bobl ifanc etholedig. 

 

Gwybodaeth ychwanegol

Byddai cwricwlwm sgiliau bywyd yn cynnwys pynciau fel: cyllid, rhyw a pherthnasoedd, gwleidyddiaeth a sgiliau byw sylfaenol. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn dweud bod gan blant yr hawl i addysg. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, fodd bynnag, yn methu â darparu'r sgiliau bywyd y mae eu hangen arnom.

 

A group of people in a room

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru

 

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2019