Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru

Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar wariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru ar 22 Ionawr 2019.

Mae'r adroddiad 'ffeithiau yn unig', yn nodi ffeithiau allweddol am y defnydd gan gyrff y GIG yng Nghymru, gan gynnwys gwariant, dadansoddiad gan gyrff iechyd o'r rhesymau sy'n sail i'r gwariant, mentrau cenedlaethol i reoli'r math hwn o wariant; a'r heriau sydd o'u blaenau.

Mae'r GIG yng Nghymru yn cyflogi bron 80,00 o staff cyfwerth ag amser llawn (ac eithrio meddygon teulu a'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol gan feddygfeydd teulu) a gwariodd £3.62 biliwn ar gyflogau yn 2017-18.

Hefyd, mae angen staff ychwanegol ar GIG Cymru i ategu'r gweithlu amser llawn – pan fo swyddi allweddol yn wag; pan fo staff yn absennol oherwydd salwch, ar wyliau neu'n absennol am reswm arall; neu pan fydd y galw am wasanaethau'n cynyddu, er enghraifft oherwydd pwysau yn y gaeaf. Gellir llenwi'r swyddi hyn drwy oramser â thâl; staff banc mewnol; asiantaethau'r sector preifat neu bobl sy'n ymrwymo i gontract uniongyrchol gyda chyrff iechyd ar sail ad hoc.

Mae'r staff a gyflenwir gan asiantaethau'n tueddu i fod y ffynhonnell ddrutaf o staff dros dro. Gwariodd cyrff y GIG yng Nghymru dros £160 miliwn ar y cyd ar staff asiantaeth yn 2016-17, sef mwy na phedair gwaith y ffigur cyfatebol ar gyfer 2012-13. Hefyd, bu cynnydd mawr mewn gwariant asiantaeth yng ngwledydd eraill y DU.

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr adroddiad ym mis Chwefror 2019 a gofynnodd am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn hyn, holodd y Pwyllgor fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r gwaith dilynol ar Weithredu Deddf Cyllid GIG (Cymru) 2014 yn ystod tymor yr haf 2019.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/01/2019

Dogfennau