Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

 

Crynodeb

Mae tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Cymru yn gyrff gwirfoddol sydd wedi cael y dasg gan Lywodraeth Cymru o chwarae rôl bwysig yn y gwaith o ddeall y galw am sgiliau yn eu rhanbarthau er mwyn helpu i alinio darparu sgiliau â'r galw hwnnw.

Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae dylanwad y partneriaethau ar y gwaith o flaenoriaethu a gwario tua £400 miliwn o gyllid cyhoeddus – gan gynnwys cyllid rhaglen brentisiaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru a gwaith sefydliadau addysg bellach Cymru – yn cynyddu.

O ystyried y dylanwad cynyddol hwn a'i rôl allweddol o ran datblygu economaidd, mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn adolygu pa mor dda y mae’r polisi Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei gyflawni, gan ystyried unrhyw safbwyntiau yr hoffai rhanddeiliaid eu rhannu o ran modelau amgen.

Cylch gorchwyl

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y canlynol:

  • Deall pa mor effeithiol y mae'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn adlewyrchu'r galw am sgiliau heddiw ac yn y dyfodol, yn enwedig anghenion yr economi sylfaenol a darparu sgiliau ddrwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys:

o  Archwilio dibynadwyedd a dilysrwydd y dystiolaeth a ddefnyddir gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i ddod i'w casgliadau

o  Archwilio effeithiolrwydd eu gweithgareddau ymgysylltu a'r mewnbynnau o'r ochr alw a’r ochr gyflenwi sy'n llywio eu casgliadau

o   Archwilio sut mae eu rolau Bargen Ddinesig a Thwf yn dylanwadu ar eu gwaith;

  • Deall a oes gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ddigon o adnoddau i gyflawni eu rôl gynyddol
  • Deall sut mae gwaith y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i lunio'r gwaith o ddarparu sgiliau ar lawr gwlad, gan gynnwys:

o  Archwilio i lefel y manylion gweithredol sy'n cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithgareddau sefydliadau addysg bellach.

  • Deall, yn gyffredinol, yr hyn sy'n gweithio'n dda, yr hyn nad yw'n gweithio cystal, ac a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol oherwydd y ffordd mae polisi Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol cyfredol yn cael ei weithredu, gan gynnwys

o   Archwilio'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn erbyn amcanion y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a'u heffaith;

o   Archwilio’r ffocws penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol fel ffynhonnell y sgiliau rhanbarthol sydd eu hangen

·         Ystyried y gwelliannau i'r ffordd bresennol o weithio ac unrhyw safbwyntiau yr hoffai rhanddeiliaid eu cynnig o ran modelau amgen posibl ar gyfer alinio’r ddarpariaeth sgiliau dag anghenion economi Cymru

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau