NDM6967 Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru
NDM6967 Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru
NDM6967 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant
Byw'n Annibynnol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi
neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n
Annibynnol at y diben hwnnw.
2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai
sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n
Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn
bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru,
sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 13 Chwe 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS