Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i waith timau nyrsio cymunedol o dan arweiniad nyrsys bro, ac ansawdd y gofal nyrsio a gynigir i bobl yn eu cartrefi eu hunain.

 

Roedd yr ymchwiliad byr hwn yn gyfle i ddeall rhagor am y bylchau yn y data, effaith bosibl hyn ar y gwaith o gynllunio’r gweithlu, ac i ba raddau y mae strategaeth ar waith yng nghyd-destun gwasanaethau nyrsio cymunedol sy’n gydnaws â’r trywydd a bennwyd yn Cymru Iachach ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Y cefndir

 

Mae gwasanaethau nyrsio cymunedol dan arweiniad nyrsys bro’n darparu gofal yng nghartrefi cleifion. Gallant helpu unigolion a'u teuluoedd i reoli eu hiechyd, osgoi cael eu hanfon i'r ysbyty’n ddiangen, eu galluogi i gael eu rhyddhau'n gynnar, a’u helpu i barhau i fyw’n annibynnol.

Mae'r gwasanaethau hyn yn debygol o ddod yn rhan gynyddol bwysig o weithlu'r GIG, o ystyried bod y polisi’n newid o ddarparu gofal mewn ysbytai i ddarparu gofal yn y gymuned, ac o ystyried y cynnydd yn anghenion gofal iechyd poblogaeth sy'n heneiddio a phobl sydd â chyflyrau cronig.

 

Caiff ei gydnabod y gallai timau nyrsio cymunedol dan arweiniad nyrsys bro gyfrannu at wasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol ond, er hynny, prin yw’r wybodaeth am y gwasanaeth ‘anweladwy’ hwn. Nid oes darlun manwl – yn genedlaethol - o nifer y timau nyrsio a’r amrywiaeth o sgiliau sydd ganddynt, nac o nifer y cleifion sy’n cael gofal yn eu cartrefi eu hunain, ac aciwtedd eu cyflwr. Mae hyn yn debygol o gael effaith ar y gwaith o gynllunio’r gweithlu. Nid yw'n glir sut y caiff gwaith timau nyrsio cymunedol ei fesur a'i gofnodi, na pha fesurau perfformiad neu ganlyniadau sy'n cael eu defnyddio i fonitro ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hyn. Mae prinder gwybodaeth hefyd am nyrsys plant sy'n gweithio yn y gymuned (mae nyrsys ardal yn canolbwyntio ar ofalu am oedolion).

 

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Lisa Turnbull, Ymgynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Sue Thomas, Ymgynghorydd Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Anwen Jenkins, Uwch Nyrs Ardal ac aelod o’r Cyngor Nyrsio Brenhinol

21 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Lesley Lewis, Pennaeth Nyrsio, Gofal Sylfaenol ac Ardaloedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Jo Webber, Pennaeth Nyrsio ar gyfer yr Is-adran Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

21 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

 

Professor Jean White, Prif Swyddog Nyrsio a Chyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Paul Labourne, Swyddog Nyrsio, Gofal Sylfaenol ac Integredig, Llywodraeth CymruCeri Matthews, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal

Tracy Elliott, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal

21 Mawrth 2019

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau