NDMxxx Dadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol

NDMxxx Dadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol

NDM6942 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r adroddiad ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol.

2. Yn cydnabod pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Mick Antoniw AC a Bethan Sayed AC, ‘Wales’ future relationship with the Committee of the Regions’ - rhoddwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau ar 18 Ionawr 2019.

Cyd-gyflwynwyr
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Dogfen Ategol
Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol : Adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau  

Math o fusnes: Dadl

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021

Angen Penderfyniad: 20 Chwe 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd