P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru


Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Siobhan Corria ar ran Michelle Christopher, ar ôl casglu 238 o lofnodion ar bapur.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae 44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob blwyddyn. Bob 3.5 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.


Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymrui gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau i’r goroeswyr a’r holl bobl y mae’n effeithio arnynt.

Er cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi effeithio arnynt yng Nghymru.

 

Deisebwyr yn cyflwyno’r ddeiseb i aelodau'r Pwyllgor Deisebau

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chytunodd i gau'r ddeiseb o ystyried cynlluniau'r Pwyllgor hwnnw i gynnal ymchwiliad i sepsis yn nhymor yr hydref. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am gyflwyno'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/03/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

·         Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad

·         Llofnodwch e-ddeiseb

·         Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/03/2019