Papur Gwyn: Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus
Papur Gwyn: Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i Bapur
Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'.
Crynodeb
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau yn gwneud darn o waith i
ymchwilio i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar sut y caiff gwasanaethau bysiau
lleol eu cynllunio a'u darparu ac ar ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau
hurio preifat.
Bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar elfennau
yn y Papur Gwyn yn ymwneud â bysiau, tocynnau teithio rhatach, tacsis a
cherbydau hurio preifat.
Mae'r cylch
gorchwyl fel a ganlyn:
- Ystyried y cyfleoedd a'r risgiau sy'n codi o ddatganoli pwerau
trafnidiaeth newydd;
- Casglu
opsiynau gan y sectorau perthnasol ar gyfer
diwygiadau deddfwriaethol posibl.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi ei ddileu