NDM6989 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cyfoeth Naturiol Cymru
NDM6989 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Cyfoeth Naturiol Cymru
NDM6989 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor
Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru
drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y
sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a
wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff
ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol
Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r
graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod
yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio
Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y
sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain
wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir
cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn
adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i
gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
Grant
Thornton - Natural Resources Wales - Governance of Timber Sales - 3 February
2019 (Saesneg yn unig)
Cyfoeth
Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Cyfrifon 2015-16
Cyfoeth
Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17
Cyfoeth
Naturiol Cymru - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
a) Ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad
Cenedlaethol i adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer
2017-2018 – Tachwedd 2018;
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru -
Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro
newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion
y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i
lywodraethu.
Y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cyfoeth Naturiol Cymru
Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – Tachwedd 2018
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 3, dileu "Yn gresynu at fethiant
systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau
proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer y methiannau
proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad
annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau
i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen
posibl.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth
Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 13 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS