Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
Inquiry5
Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru waith craffu ôl-ddeddfwriaethol byr a phenodol ar Ddeddf Addysg
Uwch (Cymru) 2015
Bwriad Deddf Addysg
Uwch (Cymru) 2015 oedd:
(a)
“sicrhau
trefn reoleiddio gadarn a chymesur ar gyfer sefydliadau yng Nghymru y mae eu
cyrsiau'n cael eu cefnogi gan grantiau a benthyciadau Llywodraeth Cymru;
(b)
diogelu'r
cyfraniad a wneir at les y cyhoedd sy'n deillio o gymhorthdal ariannol Llywodraeth Cymru tuag at addysg
uwch;
(c)
canolbwyntio'n
gryf ar sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb yn ddiwahân; a
(d)
chadw
a diogelu annibyniaeth sefydliadol a rhyddid academaidd prifysgolion.”
Roedd y Pwyllgor yn
ymwybodol bod y gwaith ar ddiwygiadau arfaethedig Addysg, Hyfforddiant ac
Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) Llywodraeth Cymru wedi datblygu'n dda.
Roedd yn awyddus
felly i ddeall pa mor dda roedd Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellid eu
dysgu yn sgîl y Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd
I wneud hyn,
ystyriodd y Pwyllgor:
- a yw'r Ddeddf yn cyflawni ei nodau,
ac os na, pam;
- a gyflawnwyd y costau, ac os na, pam;
- a yw'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth
cyffredinol am arian;
- pa mor dda y gweithredwyd y Ddeddf a
pha mor dda y mae'n gweithio'n ymarferol, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau
anfwriadol;
- y canlyniadau o adolygiadau ffurfiol
Llywodraeth Cymru o'r Ddeddf; ac
- unrhyw arfer da a gwersi a ddysgwyd
o'r Ddeddf a'r gwaith paratoi (h.y. y broses o lunio'r Ddeddf, ei
drafftio, ymgynghori arni ac ati).
Noder, nid nod yr
ymchwiliad hwn oedd ailagor y dadleuon
polisi a gododd yn ystod y cyfnod y pasiwyd y Bil. Yn hytrach, y nod eang oedd
deall a oedd y Ddeddf a'i gweithrediad wedi cyflawni'r amcanion, y costau a'r effaith
a fwriadwyd, a hynny mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1.
Estyn a Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru David
Blaney, Prif Weithredwr - CCAUC Bethan
Owen, Dirprwy Brif Weithredwr - CCAUC Meilyr
Rowlands, Prif Arolygydd EM – Estyn Jassa
Scott, Cyfarwyddwr Strategol - Estyn |
|||
2.
Prifysgolion Cymru Yr
Athro Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru Yr
Athro Elizabeth Treasure, Dirprwy Gadeirydd-Prifysgolion Cymru Ben
Arnold, Cynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru |
|||
3.
ColegauCymru Maggie
Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol - Grŵp Llandrillo Menai (trwy Gynhadledd Fideo) Emil
Evans, Dirprwy Bennaeth - Coleg Caerdydd a'r Fro Mike
Williams, Pennaeth Cynorthwyol - Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion |
|||
4.
Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) ac Undeb Prifysgolion a
Cholegau (UCU) Margaret
Phelan, Swyddog UCU Cymru Dr
Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu - UCU Rob
Simkins, Llywydd - UCM Cymru Joni
Alexander, Cyfarwyddwr Dros Dro - UCM Cymru |
|||
5.
Llywodraeth Cymru Kirsty
Williams AC, y Gweinidog Addysg Huw
Morris, Huw Morris, Cyfarwyddwr y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol
Oes, Llywodraeth Cymru |
Adroddiad
Craffu
ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (PDF 2MB) – 4 Rhagfyr 2019
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 197KB) – 16 Ionawr 2020
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2019
Dogfennau
- Gwybodaeth gan CCAUC mewn ymateb i argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor - Adolygiad o Lywodraethiant Prifysgolion yng Nghymru, Siarter Llywodraethiant ac Ymrwymiadau’r Siarter (Saeseneg yn unig) - 20 Chwefror 2020 PDF 640 KB
- Llythyr gan CCAUC mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor (Saesneg yn unig) - 24 Ionawr 2020 PDF 117 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 16 Ionawr 2020 PDF 197 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan HEFCW yn dilyn y cyfarfod ar 18 Gorffennaf (Saesneg yu Unig) PDF 234 KB
- Adroddiad - Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - 4 Rhagfyr 2019 PDF 2 MB
Ymgynghoriadau
- Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Wedi ei gyflawni)