P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-868: Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carmarthenshire Water Safety Partnership. Llofnodion i’w cadarnhau, ar ôl casglu 394 o lofnodion ar-lein a 502 ar bapur – cyfanswm o 896 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

 Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau sioc dŵr oer i'w haddysgu drwy'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru.

 

Yn 2016, gwelsom lansiad y strategaeth diogelwch dŵr gyntaf erioed yn y DU, sy'n anelu at leihau 50% o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr erbyn 2026. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gydweithio, ymwybyddiaeth, addysg ac atal. Mae angen i Gymru ymateb i'w chefnogi.

 

Mae teuluoedd Cameron Comey, Luke Somerfield, Kieran Bennett-Leefe, Robert Mansfield a Jem Pendragon oll yn cefnogi'r ddeiseb hon er cof am eu meibion a gollwyd mewn dŵr.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae cannoedd o oedolion a phlant yn boddi'n ddamweiniol bob blwyddyn yn y DU ac Iwerddon, ac mae Cymru, gyda'i hafonydd a'i llynnoedd niferus a'i harfordir gwyllt yn dioddef hefyd. Mae addysg ac atal yn allweddol i ddiogelu ein cymunedau rhag achosion diangen o foddi.

 

Mae'r ddeiseb hon hefyd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau iach ac addysgedig ar lawer o'n dyfrffyrdd agored yng Nghymru drwy hyrwyddo digwyddiadau yn genedlaethol ac yn lleol, lle gall pobl ifanc a'r cyhoedd gael mynediad at ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol, gweithgar a diogel gyda chlybiau/sefydliadau sy'n ymwneud â gweithgareddau dŵr.

 

Rydym hefyd yn cydnabod bod toriadau gan awdurdodau lleol i hygyrchedd nofio i bob disgybl (drwy bwysau llywodraeth ganolog) a Bagloriaeth Cymru newydd ar ddiogelwch dŵr yn fwlch rhy eang i sicrhau neges addysgol gyson i bawb. Mae gan Gymru dair strategaeth fras (Ein Dyfodol Iach, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) sydd â chysylltiadau ag atal anafiadau, ac felly lleihau boddi.

 

Cefnogir y ddeiseb hon gan lawer o bartneriaid gan gynnwys: pum teulu i ddynion ifanc a foddodd yng ngorllewin Cymru, Bad Achub Glan-y-fferi, Jonathan Edwards AS, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rebecca Ramsey (ymgyrchydd dros addysg diogelwch dŵr yn Lloegr), Grŵp Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Hart AS, Cyngor Tref Caerfyrddin, y Gymdeithas Cyryclau a Physgotwyr Rhwydi, Clwb Canŵio Padlwyr Cwm Gwendraeth, Gorsaf Heddlu Rhydaman, Clwb Cychod Caerfyrddin, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Gwylwyr y Glannau Llansteffan, Angela Burns AC, Fferïau Bae Caerfyrddin, Canolfan Ganŵio Padlwyr Llandysul, i enwi rhai.

 

A close up of a hillside

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb ac, yng ngoleuni’r bwriad i lansio Strategaeth Diogelwch Dŵr Cymru a gan fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar natur anrhagnodol y Cwricwlwm newydd i Gymru yn glir, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gellir ei gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/04/2019.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/03/2019