Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol

Ymchwiliad i ariannu cyrff a ariennir yn uniongyrchol

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad byr i'r drefn ariannu ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol (DFB). Nod yr ymchwiliad oedd sicrhau bod gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol ddull gweithredu cyson o ran paratoi eu cynigion cyllidebol blynyddol.

Mae cyllid Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn dod o Gronfa Gyfunol Cymru, ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • Comisiwn y Senedd;
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru; ac
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae Cymru bellach wedi bod mewn cyfnod o lymder ers tua degawd, ac mae'r Pwyllgor wedi bod yn pryderu ers cryn amser nad yw cyllidebau Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol wedi cael eu heffeithio yn yr un modd â chyllidebau eraill ym maes gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r Pwyllgor wedi darparu canllawiau i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol er mwyn sicrhau bod eu ceisiadau cyllidebol yn cael eu pennu yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol a welir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys sicrhau nad yw eu cyllidebau yn fwy nag unrhyw newidiadau a geir i grant bloc Cymru.

Fodd bynnag, mae'r mater hwn wedi bod yn broblemus gan fod Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol yn defnyddio dulliau gwahanol o ddehongli unrhyw gynnydd a welir yn y grant bloc. Mae'r mater yn cael ei gymhlethu ymhellach gan ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar faint o arian sydd ar gael mewn unrhyw flwyddyn benodol, fel penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru ar bolisïau trethiant a chyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid ychwanegol (sy'n arwain at gyllid canlyniadol i Gymru).

Ysgrifennodd y Pwyllgor yn gyntaf at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ac at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eu barn ar y materion uchod. Ar ôl ystyried yr ymatebion, ym mis Mai 2019 cyhoeddodd y Pwyllgor Ddatganiad o Egwyddor (PDF, 224KB) y mae’r Pwyllgor yn disgwyl i Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol ei ystyried pan fyddant yn gwneud eu cynigion cyllidebol.

Roedd y Datganiad o Egwyddor yn rhoi ymrwymiad y byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r ddogfen y flwyddyn weithredu a bob hyn a hyn wedyn. Yn dilyn cylch y gyllideb 2020-21, ystyriodd y Pwyllgor yr Egwyddorion ar 4 Mawrth 2020. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai dim newidiadau yn cael eu gwneud i’r Egwyddorion ar hyn o bryd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2019

Dogfennau