P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

P-05-872 Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

Wedi'i gwblhau

 

P-05-872 - Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan James Wilkinson, ar ôl casglu cyfanswm o 5,784 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ysgolion ac, os na all wneud hynny, i gydnabod effaith toriadau ar ddarpariaeth addysgol, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.

 

Wrth i gyllidebau cynghorau barhau i gael eu cwtogi, ac wrth i'r toriadau hyn gael eu trosglwyddo i ysgolion, gofynnir i gyrff llywodraethu wneud penderfyniadau amhosibl ynghylch pa wasanaethau addysgol hanfodol y dylai ein hysgolion gael gwared arnynt.

 

Bydd hyn yn golygu llai o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, llai o gefnogaeth i ddysgwyr sy'n agored i niwed, llai o ddewis o ran y cwricwlwm, adnoddau dysgu annigonol ac adeiladau adfeiliedig.

 

Nid dyma'r sylfeini y gall ysgolion adeiladu arnynt i greu a gweithredu cwricwlwm addysgol o'r radd flaenaf.

 

A close up of a person

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 05/11/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ac, yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn ddiweddar iawn i gyllid ysgolion gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn argymhellion y Pwyllgor hwnnw, a'i chamau gweithredu wrth gomisiynu adolygiad brys o gyllid ysgolion, cytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd nad oes llawer y gallai ei ychwanegu at y gwaith craffu hwn ar hyn o bryd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/04/2019

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2019