NDM7018 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol
NDM7018 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Llywodraeth Leol
NDM7018 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae awdurdodau lleol yn ei
chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
2. Yn cydnabod yr heriau ariannol y mae awdurdodau lleol
yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod trethdalwyr Cymru, ar hyn o bryd, yn talu
cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag yn Lloegr na'r Alban.
4. Yn gresynu bod
a) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi treblu ers
sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999; a
b) lefel y dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu ar
gyfradd gyflymach nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad
annibynnol o fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod lefelau treth gyngor ar gyfer eiddo band D
yng Nghymru ar gyfartaledd yn is na’r rhai yn Lloegr.
Yn cydnabod bod y fformiwla gyllido ar gyfer awdurdodau
lleol Cymru yn cael ei hadolygu yn flynyddol drwy bartneriaeth rhwng
llywodraeth leol Cymru a Llywodraeth Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 4.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar setliad
ariannu tymor hir ar gyfer llywodraeth leol a fyddai'n caniatáu ar gyfer
cynllunio tymor hwy ar gyfer llywodraeth leol.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod y dreth gyngor wedi cynyddu oherwydd
llymder a weithredwyd gan San Steffan a diffyg blaenoriaeth ar gyfer
llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru wrth lunio'r gyllideb.
Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y cysylltiad pwysig rhwng y GIG a llywodraeth
leol wrth ddarparu gwasanaethau.
Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau
neilltuedig er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth i lywodraeth leol wario
grantiau.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021
Angen Penderfyniad: 27 Maw 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd