P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

 

P-05-670 - Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Owen, ar ôl casglu cyfanswm o 3,444 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio calonnau i bob person ifanc rhwng 10 a 35 oed yng Nghymru. Mae cannoedd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o gyflwr calon heb ddiagnosis a bydd prawf ECG syml yn nodi'r rhan fwyaf o abnormaleddau'r galon fel y gellir rheoli cyflyrau'n effeithiol.

 

Mae sesiynau sgrinio calonnau'n cynnwys prawf byr, 5-10 munud, sy'n gyflym ac yn ddi-boen ac yn gallu canfod y rhan fwyaf o annormaleddau'r galon a gallai achub cannoedd o fywydau yng Nghymru. Yn rhanbarth Veneto yn yr Eidal, lle mae'r rhaglen sgrinio calonnau wedi'i chynnal ers 25 mlynedd, gostyngodd nifer yr athletwyr (dynion a menywod) a oedd yn marw'n sydyn o ataliad y galon o un mewn 28,000 bob blwyddyn i un mewn 250,000, yn ôl astudiaeth yn 2006 a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Americanaidd.

 

A group of people standing in front of a building

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/04/2019.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2019