P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio
P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio
P-05-670
- Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sharon Owen, ar ôl casglu
cyfanswm o 3,444 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i
Lywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio calonnau i bob person ifanc rhwng 10
a 35 oed yng Nghymru. Mae cannoedd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o gyflwr
calon heb ddiagnosis a bydd prawf ECG syml yn nodi'r rhan fwyaf o
abnormaleddau'r galon fel y gellir rheoli cyflyrau'n effeithiol.
Mae sesiynau sgrinio calonnau'n cynnwys prawf byr, 5-10
munud, sy'n gyflym ac yn ddi-boen ac yn gallu canfod y rhan fwyaf o
annormaleddau'r galon a gallai achub cannoedd o fywydau yng Nghymru. Yn
rhanbarth Veneto yn yr Eidal, lle mae'r rhaglen sgrinio calonnau wedi'i chynnal
ers 25 mlynedd, gostyngodd nifer yr athletwyr (dynion a menywod) a oedd yn
marw'n sydyn o ataliad y galon o un mewn 28,000 bob blwyddyn i un mewn 250,000,
yn ôl astudiaeth yn 2006 a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol
Americanaidd.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd
y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau
sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn
y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd
i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 02/04/2019.
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2019