P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sheryl Callard, ar ôl casglu cyfanswm o 95 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Pan oeddwn yn iau, cefais fy amddifadu o'r hawl i astudio fy iaith frodorol yn yr ysgol ac, oherwydd hynny, nid wy'n siarad fy iaith frodorol heddiw. Rwyf i, a chynifer o bobl eraill o'm cenhedlaeth, a hyd yn oed y genhedlaeth iau, yn cael eu hamddifadu o'r modd i siarad Cymraeg oherwydd nad oedd addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn llwyddiannus gyda hwy yn y gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud iawn am gamweddau'r gorffennol, a dangos gwir arweinyddiaeth i ymladd dros fy hawl i ddysgu fy iaith fy hun drwy ddarparu dosbarthiadau ac adnoddau Cymraeg am ddim. Rydym yn gofyn i Weinidog y Gymraeg gefnogi'r cynnig hwn ac ariannu'r dosbarthiadau fel y caf i, a llawer o bobl eraill a gafodd eu hamddifadu o'r iaith, y cyfle i'w siarad unwaith eto. Byddai hyn yn cyd-fynd yn llwyr â chynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod, sef Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddai'n rhoi sbardun i bobl ail-afael yn eu diwylliant a'u mamiaith unwaith eto. Gofynnwn i'r Llywodraeth weithio gydag asiantaethau gwahanol i ddarparu'r gwersi hyn i bobl mewn ardaloedd gwahanol a thrwy drefnu i'r gwasanaethau dysgu fod ar gael i bobl ar y we. Hefyd i ddarparu llyfrynnau a phapurau i bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru er mwyn cael cyfle i ddysgu'r iaith.

 

A fyddech cystal â sicrhau hyn i bobl Cymru sy'n awyddus i adennill eu diwylliant a'u hiaith frodorol?

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn gallu cyrchu gwersi am ffi cwrs safonol, ac mae gostyngiadau ar gael i ddysgwyr ar incwm isel a chymorth ariannol i helpu i leihau rhwystrau eraill.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/05/2019.

 

Assembly Constituency and Region

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/03/2019