P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru
P-05-875 Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru
P-05-875
Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tom MacLean, ar ôl casglu
cyfanswm o 55 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae Cyngor Conwy yn ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11
y cant yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yn y flwyddyn i ddod. Mae cynghorau
eraill yng Nghymru hefyd yn cyflwyno codiadau treth gyngor y tu hwnt i gyfradd
chwyddiant.
Galwaf ar i'r Cynulliad gapio codiadau yn y dreth gyngor
i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd. Wrth i gyfraddau dlodi plant a dyledion
cartrefi gynyddu, bydd y codiadau aruthrol yn y dreth gyngor yn cael effaith
andwyol ar gartrefi.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae Cyngor Conwy wedi codi'r dreth gyngor 5 y cant o'r
naill flwyddyn i'r llall, ond eleni mae'n ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11
y cant.
Mae gormod o gartrefi incwm isel eisoes mewn
trafferthion; byddai codiad gwarthus o'r fath yn ergyd drom.
Rydym yn talu MWY ac yn cael LLAI a LLAI o ran
gwasanaethau.
Yr un yw'r stori ledled Cymru.
Byddai capio codiadau treth gyngor i gyfradd chwyddiant
am ddwy flynedd yng Nghymru yn fodd i deuluoedd dan bwysau gael eu gwynt atynt.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/07/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb, o gofio bod
codiadau yn y dreth gyngor yn fater i'w benderfynu yn lleol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 07/05/2019.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/04/2019