Y Cefndir
Elfen allweddol o
waith Y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol oedd edrych ar fater Parodrwydd ar gyfer Brexit.
Mae’r gwaith hwn eisoes wedi cwmpasu:
Mae'r Pwyllgor wedi
ymgymryd â gwaith dilynol ar y parodrwydd ar gyfer Brexit.
Casglu
tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru a
Chonffederasiwn GIG Cymru yn ystod ei gyfarfod ar 20
Mai 2019, a chan Ffederasiwn Busnesau Bach
Cymru yn ystod ei gyfarfod ar 3
Mehefin 2019. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth
ysgrifenedig gan Gyngres
Undebau Llafur Cymru (PDF, 111KB), a Bwyd
a Diod Cymru (PDF, 120KB).
Yn dilyn y sesiynau, ac ar ôl cael tystiolaeth ysgrifenedig, ar 19 Mehefin
2019, ysgrifennodd
(PDF, 194KB) y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynglŷn â’r parodrwydd ar gyfer Brexit yng Nghymru. Ymatebodd
(PDF,302KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar 18 Gorffennaf 2019.
Ar 4 Tachwedd 2019 cynhaliodd
y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth â chynrychiolwyr o’r sectorau porthladdoedd,
trafnidiaeth, bwyd a ffermio. Ar 11 Tachwedd 2019,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr o’r sector
gwasanaethau cyhoeddus.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2019