P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymrus

P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymrus

Wedi'i gwblhau

 

P-05-876 - Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 173 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn ddiweddar, mae wedi dod i'n sylw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi trwyddedau i ganiatáu lladd rhywogaethau sy'n ymddangos ar restrau Coch ac Amber yr RSPB yng Nghymru, a hynny ar sail braidd yn annilys o bryd i'w gilydd, fel "diogelu bwyd gwartheg" a "diogelu'r awyr". Mae dulliau eraill yn bodoli i wasgaru adar heb fod angen eu lladd.

 

Mae pob rhywogaeth sydd wedi'u rhestru'n Goch mewn perygl difrifol o ddifodiant yng Nghymru, felly mae angen gwella lefel yr amddiffyniad er mwyn atal rhagor o ddirywiad i'n bioamrywiaeth naturiol.

 

Mae gan reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru safbwynt anthropocentrig o ran yr amgylchedd naturiol, ac felly nid ydynt yn addas i'r diben pan fo mater yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

 

Rydym ni, drwy lofnodi isod, yn dadlau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.

 

Rydym yn mynnu y dylai hawl Cyfoeth Naturiol Cymru (neu unrhyw gorff arall) i roi trwyddedau i ganiatáu lladd unrhyw rywogaethau Coch neu Amber rhestredig gael ei dynnu'n ôl ar unwaith, a bod angen i'r rheolwyr ystyried safbwynt llai anthropocentrig mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

 

 

A bird flying in the air

Description automatically generated

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yng ngoleuni’r newidiadau a wnaed i Drwyddedau Cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cael gwared ar rywogaethau rhestredig coch ac ambr, a’r Adolygiad Trwyddedu Adar Gwyllt ehangach sy’n cael ei gynnal yn 2020.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/05/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2019