Ymchwiliad i eiddo gwag

Ymchwiliad i eiddo gwag

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i eiddo gwag.

Cylch gorchwyl:

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod:

  • i ba raddau y mae eiddo gwag yn effeithio ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru;
  • effaith eiddo gwag ar gymunedau yng Nghymru a’r heriau y mae awdurdodau yn eu hwynebu wrth geisio ymdrin â’r broblem hon;
  • i ba raddau y mae gan awdurdodau lleol y pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnynt i ymdrin ag eiddo gwag;
  • esiamplau o arfer gorau wrth droi eiddo gwag yn dai fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni; ac
  • i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rhoi disgresiwn iddynt godi premiwm y dreth gyngor ar dai gwag, ac effeithiolrwydd y polisi hwn.

 

Tystiolaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i lywio gwaith y Pwyllgor. Gellir gweld tabl ohonynt isod.

 

Yn ogystal, ymgynghorodd y Pwyllgor ar y pwnc hwn a chynhaliodd arolwg ar-lein oedd yn gofyn cwestiynau penodol am eiddo gwag a sut maent yn effeithio ar gymunedau yng Nghymru. Mae dadansoddiad o ganlyniadau'r arolwg i’w weld isod. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Mai 2019.

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, agenda a chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1 Paula Livingstone, Cyngor Abertawe

Leighton Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin

Sion Wynne, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gaynor Toft, Cyngor Sir Ceredigion

3 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

2 Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dewi Morgan, Cyngor Gwynedd

Deb Smith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

3 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

3 Shaheena Din, Rheolwr Prosiectau Cenedlaethol, Partneriaeth Cartrefi Gwag yr Alban

Andrew Lavender, Ymgynghorydd Prosiect, Cynllun No Use Empty

Brighid Carey, Rheolwr Prosiect: Dulliau cymunedol, Action on Empty Homes

Nigel Dewbery, Cyfarwyddwr Cyflawni Rhwymedigaethau a Gwasanaethau Gosod, E.ON

11 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

4 Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

Matthew Kennedy, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi, Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Michelle Collins, Rheolwr Tîm Arbenigol, United Welsh

11 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

5 Douglas Haig, Is-gadeirydd, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

Gavin Dick, Swyddog Polisi Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid

Ifan Glyn, Uwch-gyfarwyddwr Hyb, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr

11 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

6 Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Ian Williams, Llywodraeth Cymru

Vivienne Lewis, Llywodraeth Cymru

17 Gorffennaf 2019

Trawsgrifiad 

Gwyliwch ar Senedd. TV

 

 

Adroddiad

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad, Eiddo Gwag (PDF, 2MB) ar 10 Hydref 2019.

Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Gall mynd i’r afael â’r broblem eiddo gwag wneud cyfraniad sylweddol tuag at adfywio cymunedol ehangach; gall wneud ardal yn fwy deniadol a chynyddu’r stoc dai sydd ar gael. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried anghenion cymunedau unigol a sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu teilwra’n briodol.”

Gosododd Llywodraeth Cymru ei hymateb (PDF, 307KB) i’r adroddiad ar 27 Tachwedd 2019. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Rhagfyr 2019.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau