P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
P-05-879 - Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y
cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Annie Harris, ar ôl casglu
cyfanswm o 1,947 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Pan fyddaf yn gweithio i Mental -
Y Podcast i Ddat-stigmateiddio Iechyd Meddwl, rwy'n pryderu'n barhaus am
ddiffyg addysg sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ysgolion. Gydag un o bob
pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl bob blwyddyn yn ôl yr elusen Mind,
ymddengys bod hwn yn fwlch gwirioneddol a sylweddol yn ein system addysg.
YSTADEGAU ALLWEDDOL:
Mae dros hanner o bob salwch meddwl yn dechrau
cyn bod unigolyn yn 14 mlwydd oed, ac mae 75% o bob salwch meddwl wedi datblygu
erbyn y bydd unigolyn yn 18 mlwydd oed;
Canfu arolwg yn 2015 fod 13% o oedolion (16 oed
a hŷn) sy'n byw yng Nghymru wedi cael triniaeth am broblem iechyd meddwl,
sef cynnydd o 12% o'i gymharu â'r ffigur yn 2014;
Mae cost cyffredinol problemau iechyd meddwl yng
Nghymru oddeutu £7.2 biliwn y flwyddyn.
Mae'r ystadegau'n syfrdanol, ond er bod pwnc
cyfan yng nghwricwlwm Cymru yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol ar ffurf y
pwnc Addysg Gorfforol, nid yw ein pobl ifanc yn dysgu dim am yr afiechydon
meddwl mwyaf cyffredin hyd yn oed.
Mae hyn, nid yn unig yn golygu eu bod yn amharod
ac yn agored pan ddaw'n fater o ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain, ond hefyd
mae'n gosod cynsail nad yw Iechyd Meddwl yn cael ei drafod. Mae hyn yn plannu
hadyn o stigma sy'n aros gyda llawer drwy gydol eu hoes.
Rydym am glywed barn y rhai sydd mewn grym
ynghylch cynllun ehangach i wella bywydau pobl ifanc Cymru.
YN YMGYRCHU DROS:
Fod addysg iechyd meddwl yn dod yn addysgu
gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, heb ychwanegu dim arholiadau / gwaith
cartref ar y pwnc hwn.
Y gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at
gwnselydd cymwys drwy ei ysgol.
Fod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant
Iechyd Meddwl i'w staff.
Llofnodwch ein deiseb i'n helpu i ddod gam yn
nes at wneud y ceisiadau hyn yn realiti i blant Cymru, a chan felly ddiogelu iechyd
cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch am ddarllen hwn, Annie Harris
Dysgwch ragor am y ddeiseb hon a'r tîm a'i
cyflwynodd yn mentalpodcast.co.uk/petition
Gwybodaeth
ychwanegol:
1. Ffynhonnell: Murphy M a Fonagy P
(2012). Problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc. Yn: Adroddiad
Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2012. Llundain: Yr Adran Iechyd.
2. a 3. Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl. Iechyd
Meddwl yng Nghymru, Ffeithiau Sylfaenol 2016
(https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/FF16%20Wales%20WELSH.pdf)
Gweler
https://www.change.org/p/get-mental-health-education-on-the-school-curriculum-mentalpetition-join-me-and-over-100-000-others
i glywed am y diddordeb cenedlaethol yn y ddeiseb hon. Cyflwynwyd y ddeiseb i
10 Stryd Downing ar 3 Hydref 2018
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yn sgil y gwaith
craffu a wnaed ar y materion hyn drwy ymchwiliad Cadernid Meddwl y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y flaenoriaeth gynyddol a roddir i iechyd meddwl
yn y cwricwlwm newydd, a'r diffyg ymateb gan y deisebydd yn ddiweddar. Roedd y
Pwyllgor am ddiolch i’r deisebwyr am eu hymgysylltiad a dymuno’n dda iddynt ar
gyfer y dyfodol.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 21/05/2019.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/05/2019