P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru
P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru
P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Phil Rowe, ar ôl casglu
cyfanswm o 86 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru.
Y nod yw creu a hybu wythnos o ddathlu a chofnodi'n
hanesyddol-gywir hanes Cymru sy'n esgor ar ddysgu a chyfleoedd addysgol.
Byddai'r hyn a addysgir yn fwy onest na hanes 'lân' Prydain a gafodd cynifer
ohonom yn yr ysgol, ac ni fyddai'n amcanu i roi unrhyw ogwydd i'r wybodaeth gan
ffafrio unrhyw barti.
I herio'r ffantasiau hanesyddol-anghywir sydd
i'w cael ynghylch stereoteip Cymru, a sut y daeth i fod yn hierarchiaeth
Prydain yn y cyfnod sydd ohoni.
Drwy ddeall ein hanes go iawn, hybu pwysigrwydd
yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, lle Cymru yn y Brydain fodern, a thrwy
gyflwyno trafodaethau ynghylch sut y dylem geisio sicrhau bod hynny'n cael ei
ddeall nid yn unig o fewn Cymru, ond hefyd o fewn y gwledydd eraill ar ynysoedd
Prydain ac yng ngweddill y byd.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae nifer o bobl yng Nghymru (gan gynnwys fi fy
hun) yn cael ein magu â thybiaethau anghywir ynghylch sut y daeth Cymru i fod,
a'r 'hiliau' sydd i'w cael ar ynysoedd Prydain.
Bydd dealltwriaeth ddyfnach o bwy ydym a sut y
cyrhaeddom lle yr ydym heddiw yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ystyried lle yr
ydym am fod yn y dyfodol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r sylw a roddwyd i’r cyfleoedd cyfredol i
ddysgu am hanes Cymru yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar P-05-992
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes
Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac addewid blaenorol y Dirprwy
Weinidog i drafod sut y gall gwaith hyrwyddo ddatblygu naratif ehangach,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
11/06/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Castell-nedd
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019