Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc ('Cadernid Meddwl') – Gwaith dilynol
Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc ('Cadernid Meddwl') – Gwaith dilynol
Inquiry5
Fe wnaeth
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg waith dilynol ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a
Phobl Ifanc yng Nghymru.
Yn dilyn
cyhoeddi ei adroddiad gwreiddiol, sef Cadernid
Meddwl, yn 2018, ymrwymodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y ffordd y mae
argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu. Isod, amlinellir y gwaith a
wnaeth y Pwyllgor yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r adroddiad dilynol, sef Cadernid
Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach ym mis Hydref 2020.
Llinell
amser ers cyhoeddi’r adroddiad Cadernid Meddwl
Ym mis Ebrill
2018, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' (PDF 3.32MB). Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth
Cymru (PDF 1.262KB) ym mis Mehefin 2018, i lywio'r ddadl
yn y Cyfarfod Llawn a ddilynodd ym mis Gorffennaf 2018.
Yn dilyn y
ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gofynnwyd am ymateb diwygiedig gan Lywodraeth Cymru.
Roedd hyn oherwydd bod yna gonsensws trawsbleidiol yn y Siambr nad oedd ymateb
gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn bodloni'r uchelgais a amlinellwyd yn adroddiad
ac argymhellion y Pwyllgor.
Mewn
ymateb i’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn, ym mis Medi 2018, sefydlodd
Llywodraeth CymruGrŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion o dan gyd-gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg. Cytunodd Llywodraeth Cymru
hefyd i roi diweddariad (PDF 202KB) ar yr argymhellion erbyn mis Mawrth 2019. Ym mis Chwefror
2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 76.1KB) i atgoffa Llywodraeth Cymru am y cais am ymateb
diwygiedig.
Ym mis Mai
2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi’r diweddariad y gofynnwyd amdano (PDF 824KB) ynghylch cynnydd mewn
perthynas ag argymhellion y Pwyllgor. Hefyd, cafwyd diweddariad (PDF 655KB) gan Gadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl
Ifanc.
Ym mis Mehefin
2019, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau craffu cyhoeddus i lywio ei waith
dilynol:
20 Mehefin 2019 – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg.
26 Mehefin 2019 - Cadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a
Phobl Ifanc.
Ym mis Gorffennaf
2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ysgrifennu at y Pwyllgor (PDF 397KB) ynghylch y camau y cytunwyd arnynt yn y
sesiwn dystiolaeth lafar.
Ym mis Awst
2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF 163KB) yn amlinellu ei gasgliadau a'i
argymhellion yn dilyn y sesiynau craffu dilynol. Ym mis Hydref 2019, fe
wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i lythyr y Pwyllgor. (PDF 471KB)
Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd y Pwyllgor lythyr (PDF 1 MB) gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch dyfodol y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a
Phobl Ifanc. Mewn ymateb, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 104KB) yn amlinellu ei gamau nesaf.
Ym mis Chwefror
2020, ceisiodd y Pwyllgor farn gan
randdeiliaid i asesu i ba raddau yr oedd argymhellion ei adroddiad gwreiddiol,
sef Cadernid Meddwl, wedi'u rhoi ar waith. Cynhaliwyd gweithdy i randdeiliaid
lle rhoddodd rhanddeiliaid sgôr coch, melyn neu wyrdd i’r broses o weithredu'r
argymhellion. Hefyd, cyfarfu’r Pwyllgor â rhieni a gofalwyr (PDF 129KB) a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru. (PDF 143KB)
Allbwn
Terfynol
Ym mis Hydref 2020, fe wnaeth y Pwyllgor gyhoeddi ei
adroddiad, Cadernid
Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF
119KB) gan y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl IfancCymru ym mis Tachwedd
2020 ac ymateb (PDF
6MB ) gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020.
Roedd yr
adroddiad yn destun
dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2019
Dogfennau
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Diweddariad ar Iechyd Meddwl Amenedigol – 31 Mawrth 2021 PDF 801 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch gweithredu fframwaith y dull ysgol gyfan - 19 Mawrth 2021 PDF 442 KB
- Ymateb gan Raglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) - Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig) PDF 119 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru – mis Tachwedd 2020 PDF 5 MB
- Llythyr at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg, ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg - 13 Tachwedd 2020 PDF 543 KB
- Nodyn o'r trafodaethau a gawsom gyda rhieni a gofalwyr – Mawrth 2020 PDF 134 KB
- Mae nodyn o'r trafodaethau a gynhaliwyd gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru hefyd ar gael – Mawrth 2020 PDF 140 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg – y camau nesaf - 27 Chwefror 2020 PDF 784 KB
- Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg – camau nesaf yr adroddiad Cadernid Meddwl - 6 Ionawr 2020 PDF 397 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg – Y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant yn y sector addysg gan y Ganolfan Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod -17 Rhagfyr 2019 PDF 527 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 12 Rhagfyr 2019 PDF 104 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc - 9 Rhagfyr 2019 PDF 256 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 22 Hydref 2019 PDF 487 KB
- Llythyr at y Gweinidog Addysg a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 8 Awst 2019 PDF 288 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 20 Mehefin 2019 PDF 340 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Drafft Law - 7 Gorffennaf 2019 PDF 1 MB
- Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - Gwasanaethau Cleifion Mewnol CAMHS Haen 4 - 4 Gorffennaf 2019 (Saeneg yn unig) PDF 311 KB
- Llythyr oddi wrth Gyda’n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc – Rhaglen (T4CYP): Adroddiad Diweddaru - 3 Ebrill 2019 (Saesneg yn unig) PDF 550 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - Cadernid Meddwl: gwaith dilynol - 13 Chwefror 2019 PDF 78 KB
Ymgynghoriadau