P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

O dan ystyriaeth

 

P-05-884 Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alanna Jones, ar ôl casglu 158 o lofnodion ar-lein a 141 ar bapur, sef cyfanswm o 299 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio geiriad presennol Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 ("y Rheoliadau"). Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud y diwygiadau i'r Rheoliadau i fynd i'r afael â chyfyngiad presennol Rheoliad 6, Amod 5, sy'n atal myfyrwyr o Gymru rhag cael mynediad at gyllid myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU lle mae lleoliad yr astudio ar eu campws tramor. Rydym ni'n ystyried y gellid ei gyflawni, naill ai drwy:

 

ehangu'r meini prawf yn Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch yn y DU naill ai yn eu campysau yn y DU neu dramor; neu

diwygio Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch sy'n cynnig cyrsiau dynodedig ac i gynnwys Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis ar y rhestr o sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau dynodedig, gan ddefnyddio'ch disgresiwn o dan Reoliad 8.

 

Diwygiad Arfaethedig:

 

Opsiwn 1

 

"Condition 5

 

At least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom or at any campus of a United Kingdom higher education institution located outside of the United Kingdom".

 

Opsiwn 2

 

"Condition 5

 

At least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom. This condition shall apply, unless the course has been deemed to be treated as a designated course pursuant to Regulation 8(1) or 8(2)."

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fabwysiadu'r newidiadau arfaethedig fel y gall myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau fel Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis gael eu hystyried fel "myfyrwyr cymwys" at ddibenion cael cymorth i fyfyrwyr. Mae Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis yn cynnig cyrsiau addysg uwch mewn ieithoedd modern, ble mae'r addysgu a'r goruchwylio yn cael ei gynnal yn bennaf ym Mharis. Serch hynny, caiff myfyrwyr eu haddysgu gan gyflogeion Prifysgol Llundain a'i phartner cydweithredol, Queen Mary, Prifysgol Llundain.

 

Oni wneir newid i eiriad presennol y Rheoliadau, bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i ddioddef anfantais anghyfiawn wrth wneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau penodol yn y DU. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud y newid hwn gan nad oes cyfyngiad tebyg ar draws rhannau eraill o'r DU. Os na chymerir unrhyw gamau, gall y Rheoliadau barhau i fod yn rhwystr i fyfyrwyr sy'n gobeithio gwneud cais am gyrsiau yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Rhwng mis Medi 2018 a mis Chwefror 2019 cawsom negeseuon anghyson ynglŷn â sefyllfa Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis a chafodd myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wybodaeth anghyson am eu cymhwysedd. Cymerodd Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis y camau canlynol i fynd i'r afael â hyn:

 

Cysylltwyd â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

Cysylltwyd â Chyllid Myfyrwyr Cymru

Cysylltwyd ag adran 'Dynodi' Llywodraeth Cymru.

Mae copïau o'r ohebiaeth berthnasol ar gael ar gais.

 

Pan eglurwyd y sefyllfa o'r diwedd, ym mis Chwefror, cafodd ymgeiswyr o Gymru wybod gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis nad oeddent yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer y rhaglenni hyn, ac achosodd hyn ofid sylweddol iddynt. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ystyried ein pryderon fel mater o flaenoriaeth.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019