P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru
P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru
P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar
gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joe Powell, ar ôl casglu
cyfanswm o 203 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod
pob awdurdod lleol yn ymgynghori â phobl ag anableddau dysgu cyn gwneud unrhyw
newidiadau i wasanaethau bysiau/llwybrau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys
newidiadau i safleoedd bysiau.
Rydym hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru
ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn
ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau. Mae'r mesurau hyn yn
hanfodol os ydym am i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru beidio â chael eu
hynysu yn y gymdeithas, ac os ydym am eu galluogi i fyw fel dinasyddion
gweithgar a chydradd a chanddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i
gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, fel y'u hyrwyddir yn Neddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd nad oes fawr ddim y gallai'r Pwyllgor ei
gyflawni mwyach yn y cyswllt hwn ar hyn o bryd, a hynny o ystyried y wybodaeth
a gafwyd gan y Gweinidog a bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio trefniadau
rheoleiddio gwasanaethau bysiau drwy'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus arfaethedig.
Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i awgrymu bod y deisebwyr yn ymgysylltu
â’r broses o graffu ar y Bil ac yn lobïo Aelodau'r Cynulliad i osod unrhyw
welliannau perthnasol bryd hynny.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/07/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2019