NDM7065 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Leihau Gwastraff Plastig

NDM7065 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Leihau Gwastraff Plastig

NDM7065 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill i gymryd camau i helpu i ddileu gwastraff plastig y gellir ei osgoi drwy hefyd:

a) gwahardd cyflenwi gwellt plastig, gan eithrio unigolion ag anableddau;

b) atal y cyflenwad o ffyn cotwm â choesau plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; ac

c) gwahardd trowyr diodydd.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:

1.         Yn cydnabod y pwysigrwydd cynyddol y mae'r cyhoedd yng Nghymru yn ei roi ar leihau gwastraff plastig.

2.         Yn cydnabod bod Cymru ar flaen y gad yn y DU gyda’r cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol presennol yn 62.7 y cant.

3.         Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru er mwyn atal 'llygredd amgylcheddol' rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd.

4.         Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyflenwad o boteli plastig untro yng Nghymru, gan gynnwys menter Cenedl Ail-lenwi.

5.         Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion ar gyfer cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar sut y gall gyflwyno cynllun o’r fath.

6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyfyngu ar wellt yfed plastig a gwahardd trowyr diodydd plastig a ffyn cotwm yng Nghymru, yn unol â chyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd ar blastig untro, ynghyd â chyllyll a ffyrc a phlatiau plastig; cynhwysyddion bwyd a diod polystyren ehangedig, a ffyn balwnau.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw'n fioddiraddiadwy, a fyddai'n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm plastig.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021

Angen Penderfyniad: 12 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Darren Millar AS