Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru

Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru

 

 

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad (PDF 2.18MB) ar 6 Mehefin 2019.

 

Mae'r adroddiad yn dangos bod yr holl wasanaethau cynllunio dan sylw wedi gweld toriadau o 50 y cant yn eu cyllidebau yn ystod y deng mlynedd diwethaf, gan gymryd chwyddiant i ystyriaeth. Gyda llai o gyllid ar gael i ariannu gwasanaethau, mae capasiti swyddogion cynllunio o dan straen ac mae lefel y sgiliau sydd ar gael yn crebachu mewn meysydd allweddol. At hynny, mae nifer yr hyfforddeion sy'n dechrau gyrfa ym maes cynllunio wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, gan godi pryderon ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y gwasanaethau dan sylw.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn crynhoi safbwyntiau'r cyhoedd, a ddaeth i'r amlwg mewn arolwg Cymru gyfan. Canfu'r arolwg fod datgysylltiad cynyddol rhwng yr hyn y mae pobl am ei weld gan eu hawdurdod cynllunio a'r hyn y gall eu hawdurdod cynllunio ei gyflawni. Dywedodd 67 y cant o ddinasyddion a gymerodd ran yn yr arolwg nad yw awdurdodau cynllunio lleol yn ymgysylltu'n effeithiol â hwy ynghylch eu cynigion cynllunio, ac mae llawer yn teimlo bod cynllunwyr yn canolbwyntio mwy ar geisiadau unigol yn hytrach na chefnogi creu cymdeithas well sy'n fwy cynaliadwy.

 

Mae'r penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cynllunio lleol yn effeithio arnom ni i gyd. Gallant gefnogi'r broses o ddatblygu cartrefi newydd, hyrwyddo cadwraeth, creu cyfleoedd gwaith a gwella seilwaith lleol. Serch hynny, er bod cynllunwyr yn canolbwyntio ar geisiadau unigol, pryder dinasyddion Cymru yw nad oes digon yn cael ei wneud i greu cymunedau bywiog a chynaliadwy.

 

Nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ganfyddiadau'r Adroddiad, a cynhaliodd ymchwiliad yn nhymor y Gwanwyn 2020. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2020.

 

Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru ei ystyried ym mis Medi 2020.

 

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Dr Roisin Willmott - Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

Dydd Llun 10 Chwefror 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

 

2. Craig Mitchell - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Mark Hand – Cyngor Sir Fynwy

 

Andrew Farrow – Cyngor Sir Fflint

 

Nicola Pearce – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Llinos Quelch – Cyngor Sir Gar

Dydd Llun 10 Chwefror 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Nick Bennett – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dydd Llun 24 Chwefror 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4. Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Marie Brousseau-Navarro – Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Dydd Llun 24 Chwefror 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5. Llywodraeth Cymru

Andrew Slade

Dydd Llun 9 Mawrth 2020

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2019

Dogfennau