Ffordd Liniaru yr M4

Ffordd Liniaru yr M4

 

Yn dilyn Datganiad y Prif Weinidog ar 4 Mehefin 2019 yn hysbysu na fydd Ffordd Liniaru yr M4 yn mynd yn ei blaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion am y costau hyd yma sy’n gysylltiedig â’r prosiect, sydd bellach yn £114m.

Cafodd llawer o gwestiynau eu gofyn am beth a gafodd ei wario gyda’r arian hwn a ph’un a yw’r gwariant yn cynrychioli gwerth am arian.

Edrychodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y gwariant hwn gyda Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2019. Yn dilyn cyfnewid gohebiaeth, cytunodd y Pwyllgor ar 11 Tachwedd 2019 y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn mynegi barn y Pwyllgor i helpu i hwyluso unrhyw waith y mae’r Pwyllgor hwnnw’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn dilyn Adolygiad Burns

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Llywodraeth Cymru

Andrew Slade
Simon Jones
Andy Falleyn

Dydd Llun 15 Gorffennaf 2019

Darllen trawsgrifiad Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2019

Dogfennau