Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Amcan polisi’r Bil yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

 

Mae’r Bil yn ceisio’i gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt (fel y’i diffinnir yn y Bil) mewn syrcas deithiol. Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw’n perfformio neu’n cael ei arddangos. Byddai’r drosedd yn cael ei chyflawni gan y person sy’n weithredwr (fel y’i diffinnir yn y Bil) y syrcas deithiol os yw’n defnyddio neu’n caniatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt yn y syrcas deithiol. Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

 

Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid wedi’u domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys syrcasau sefydlog.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw i gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 8 Gorffennaf 2019

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd: 8 Gorffennaf 2019

 

Y Pwyllgor Busnes – Amserelen ar gyfer ystyried Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru

 

Llythr at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Datganiad o Fwriad Polisi   PDF 259 KB

 

Datganiad Bwriad Polisi - Cyflwyno Bil Anifeiliad Gwyllt a Syrcasau (Cymru)   PDF 172 KB

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn trafod ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 10 Gorffennaf 2019.

 

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud galwad agored am dystiolaeth am y Bil.

 

Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cau.

 

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

10 Gorffennaf 2019

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (preifat)

Preifat

Preifat

18 Gorffennaf 2019

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

18 Gorffennaf 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 18 Gorffennaf 2019

18 Medi 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

18 Medi 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 18 Medi 2019

26 Medi 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

26 Medi 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 26 Medi

2 Hydref 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

02 Hydref 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 02 Hydref

10 Hydref 2019

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

10 Hydref 2019 trawsgrifiad

Gwylio cyfarfod 10 Hydref

 

Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

 

21 Hydref 2019

Pwrpas y cyfarfod

 

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Trawsgrifiad

 

21 Hydref 2019 trawsgrifiad

Senedd.TV

 

Gwylio cyfarfod 21 Hydref

 

 

Bu’r Y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

 

03 Hydref 2019

Pwrpas y cyfarfod

 

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Trawsgrifiad

 

 

03 Hydref 2019 trawsgrifiad

Senedd.TV

 

 

Gwylio cyfarfod 03 Hydref

 

Adroddiadau Cyfnod 1

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar 14 Hydref 2019 ar oblygiadau ariannol y Bil.

 

Gosododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar y Bil (PDF, 1MB) ar 4 Rhagfyr 2019.

 

Gosododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei Adroddiad Cyfnod 1 ar 06 Rhagfyr 2019.

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi nad oes angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Llythyr gan y Llywydd ar benderfyniad ariannol – 15 Tachwedd

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Ar ôl Cyfnod 4

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Elizabeth Wilkinson

Rhif ffôn: 0300 200 6361

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA

 

Ebost: SeneddNHAMG@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2019

Angen Penderfyniad: Meeting Date Yn ôl Y Pwyllgor Busnes, Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Y Cyfarfod Llawn

Dogfennau

Ymgynghoriadau

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu