Datgarboneiddio trafnidiaeth
Datgarboneiddio trafnidiaeth
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i
ddatgarboneiddio trafnidiaeth
Crynodeb
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu
Strategaeth Drafnidiaeth nesaf Cymru.
Disgwylir i'r Strategaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi
ym mis Mai 2020 a bydd yn cynnwys ffocws allweddol ar symud i ddulliau
trafnidiaeth carbon isel i gyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru
a lleihau'r nifer cynyddol o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer
Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddylanwadu ar ddatblygiad y
Strategaeth.
Cylch gorchwyl
Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y
canlynol:
- A yw'r targedau, y polisïau a'r cynigion ar gyfer lleihau allyriadau
trafnidiaeth (a nodir yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel) yn
gyraeddadwy ac yn ddigon uchelgeisiol?
- A yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio
trafnidiaeth yn ddigon arloesol, yn enwedig o ran hyrwyddo technolegau
newydd?
- Pa gamau sydd eu hangen, a chan bwy, i gyflawni'r targedau, y polisïau
a’r amcanion?
- Sut ddylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru adlewyrchu'r camau
gweithredu sydd eu hangen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2019
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Datgarboneiddio trafnidiaeth - Gorffennaf 2020 PDF 3 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 147 KB
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Ddatgarboneiddio trafnidiaeth (Wedi ei gyflawni)