NDM7101 Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch
NDM7101 Dadl Plaid Cymru - Y Sector Addysg Uwch
NDM7101 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu
sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u
colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol
sefydliadau unigol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys
o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i
CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y
dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw arian
cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog
is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a
thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn
perthynas â gwariant arian cyhoeddus;
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac
unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff
prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i
brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau
staffio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod:
a. bod Prifysgolion yng Nghymru
a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;
b. yr heriau ariannol sy’n
wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r
gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;
2. Yn croesawu:
a. bod Llywodraeth Cymru wedi
cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer
y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;
b. bod setliad teg a chynaliadwy
wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym
mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;
c. bod ymrwymiad ar draws y sector
yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o
dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i
fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar
Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;
d. mai Cymru yw’r wlad sy’n
perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru
wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector
i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau
llywodraethiant ac atebolrwydd.
Cod
Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 3.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu 'yn amodol ar y ffaith na fyddai
cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol' a rhoi yn
ei le 'yn cynnwys amodau i fynd i'r afael â chyflogau gormodol is-ganghellorion
ac uwch arweinwyr'.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r wybodaeth am y
sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar
ddyraniad cyllideb flynyddol y sector.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 26 Meh 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS