Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit

Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit

 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ('y Pwyllgor') ymchwiliad i egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol. Adeiladodd y gwaith hwn ar adroddiad y Pwyllgor (PDF 242KB) a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018 a wnaeth argymhellion i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sylwadau ar y canlynol:

 

  • Bylchau mewn egwyddorion a strwythurau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit yng Nghymru ac a yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru (yn yr ymgynghoriad) yn nodi'r diffygion yn gywir ac yn gynhwysfawr;
  • Cynigion ymgynghori a chwestiynau Llywodraeth Cymru ynghylch yr egwyddorion amgylcheddol, a swyddogaeth/cyfansoddiad/cwmpas y corff llywodraethu arfaethedig; a
  • Gwerth a materion ymarferol o gael dull ar y cyd â'r DU o ystyried cynnig Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU y gallai strwythurau llywodraethu newydd yn Lloegr arfer swyddogaethau'n ehangach ledled y DU.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Egwyddorion a threfniadau

llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit (PDF3924KB) ar 2 Hydref 2019. Ymatebodd (PDF 318KB) Llywodraeth Cymru ar 29 Tachwedd 2019.

Ar 13 Rhagfyr 2019 ysgrifennodd (PDF 247KB) y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn iddi egluro nifer o faterion mewn perthynas â'i hymateb i adroddiad y Pwyllgor.  Ymatebodd y Gweinidog (PDF 1MB) ar 20 Ionawr 2020.

 

Yn dilyn ymddangosiad y Gweinidog gerbron y Pwyllgor ar 12 Tachwedd 2020, ac yn dilyn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar Adroddiad y Tasglu Rhanddeiliaid Llywodraethu Amgylcheddol, ysgrifennodd (PDF 211KB) y Cadeirydd (ar 23 Tachwedd 2020) at y Gweinidog i holi am nifer o faterion mewn perthynas â threfniadau llywodraethu amgylcheddol dros dro ar gyfer diwedd y cyfnod gweithredu. Ymatebodd (PDF 517KB) y Gweinidog ar 8 Rhagfyr 2020.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/06/2019

Dogfennau