Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham

Mae hwn yn fater lle y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynwyd Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 5 Mehefin 2019.

 

Mae'r Bil yn ceisio ymdrin â nifer fach o feysydd y mae angen ymateb deddfwriaethol iddynt mewn perthynas â'r paratoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, sydd i'w cynnal yn Birmingham yn 2022.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 19 Mehefin 2019 (PDF, 70KB).

 

Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2019

Dogfennau