Hawliau plant yng Nghymru
Hawliau plant yng Nghymru
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr i hawliau plant yng Nghymru i
adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Cylch Gorchwyl
Bu’n ystyried:
- i ba raddau y mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 wedi dylanwadu ar benderfyniadau
Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei dyraniadau ariannol a ph’un a yw wedi
cyflawni 'mesurau cyffredinol' y Confensiwn o weithredu;
- tystiolaeth a yw'r Mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant a
phobl Ifanc;
- a yw'r dyletswyddau yn y Mesur wedi'u sefydlu'n effeithiol ar draws
polisi a phortffolios cabinet Llywodraeth Cymru;
- i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod ei
ddyletswyddau o fewn y Mesur yn cael eu cyfleu yng ngwaith y cyrff
cyhoeddus y mae’n eu cyllido gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG;
- i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei dyletswydd i
hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn ymhlith y cyhoedd, gan
gynnwys plant a phobl ifanc;
- sut mae'r ddyletswydd i gael 'sylw dyledus' i'r Confensiwn ar
Hawliau'r Plentyn yn cael ei gweithredu'n ymarferol ac a yw Asesiadau o'r
Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu defnyddio fel adnodd ystyrlon;
- effeithiolrwydd y Cynllun Hawliau Plant ac adroddiad cydymffurfio
diweddaraf Llywodraeth Cymru ac i ba raddau y maent yn dangos tystiolaeth
o weithredu digonol ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Mesur yn cael
ei weithredu'n llawn;
- pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb yn strategol i
Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Blog
Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd flogiau gyda rhagor o
wybodaeth am y pwnc hwn:
Hawliau
plant: mater gwleidyddol pwysig unwaith eto
Casglu tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau tystiolaeth i
lywio ei waith, a gellir gweld manylion y rhain yn y tabl isod. Gwnaeth y
Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn hefyd. Mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.
Grid Tystiolaeth
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a
Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
yng Nghymru Sean O'Neil,
Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru Tim Ruscoe, Swyddog
Materion Cyhoeddus a Chyfranogiad, Barnardo's Cymru Dr Simon Hoffman,
Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe |
|||
2. Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru Dr Phillip Connor,
Ymgynghorydd mewn Haematolegydd Paediatreg, Arweinydd Ymchwil a Datblygu'r
Gyfarwyddiaeth, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru Rhian Croke,
Cynghorydd Hawliau Dynol Plant, Hawliau Dynol Cymru Rhian Thomas Turner,
Uwch-reolwr Gweithrediadau, Ysbyty Plant Cymru |
|||
3. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Melissa Wood, Uwch
Gydymaith Hannah Wharf, Prif
arferydd |
|||
4. Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland,
Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas,
Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus |
|||
5. Llywodraeth Cymru Julie Morgan AC, y
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Karen Cornish, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd – Llywodraeth Cymru David Pearce, Pennaeth
y Gangen Plant – Llywodraeth Cymru |
|||
6. Cynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru Betsan Angell Roberts,
Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Ogledd Caerdydd Todd Murray, Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru dros Ben-y-bont ar Ogwr Ffion Griffith, Aelod
o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn Maisy Evans, Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen |
Ymgysylltu â'r cyhoedd
Yn ogystal â chasglu tystiolaeth yn ffurfiol, gofynnodd y
Pwyllgor am farn y plant a'r bobl ifanc drwy fentrau ymgysylltu. Gellir gweld crynodeb o'r gweithgareddau isod.
Cyfarfod mewn Blwch
Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, datblygodd y Pwyllgor
weithgaredd ymgysylltu o’r enw "cyfarfod
mewn blwch". (PDF 95.3KB) Pecyn adnoddau oedd hwn sy'n galluogi plant
a phobl ifanc i rannu eu safbwyntiau ar hawliau plant; yna, cynhaliwyd arolwg
byr er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd a bwydo i mewn i'r ymchwiliad ehangach.
Cynhyrchwyd fideo byr
i ymhelaethu am yr adnodd, sut y cafodd ei ddefnyddio ledled Cymru, a'r ffyrdd
eraill y mae'r Pwyllgor wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Cyfarfod
mewn Blwch – crynodeb ymgysylltu (PDF 234KB)
Lleisiau Bach / Little Voices
Gan weithio mewn partneriaeth â Lleisiau Bach / Little
Voices, cyfarfu'r Pwyllgor â phlant o ddwy ysgol gynradd i gael dealltwriaeth o
sut mae hawliau plant yn eu helpu. Lleisiau Bach – Lleisiau
Plant yn Cael eu Clywed (PDF 689KB)
Adroddiad
Ar 11 Awst 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF 145MB) ar Hawliau Plant yng Nghymru. Mae fersiwn sy'n addas i blant ar
gael (PDF 278KB).
Ar 23 Medi 2020 ymatebodd
(PDF 703KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.
Ar 14 Hydref 2020, ysgrifennodd
y Pwyllgor (PDF 207KB) at y rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth lafar i'r ymchwiliad
hwn i gasglu eu barn ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor, ac
unrhyw ddiweddariadau sylweddol sy'n berthnasol i'r adroddiad ers i'r Pwyllgor
gymryd tystiolaeth. Cawsom farn Comisiynydd
Plant Cymru (PDF 469KB), Plant
yng Nghymru (PDF 121KB), a’r Uned
Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (NACH) yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, a
gefnogir gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru.(PDF 566KB)
Trafodwyd yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 20
Ionawr 2021.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2019
Dogfennau
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad Llywodraeth Cymru PDF 925 KB
- Crynodeb o'r drafodaeth ford gron a gynhaliwyd gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y cynnydd a wnaed o ran hawliau plant yng Nghymru - 5 Mawrth 2021 PDF 187 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ar gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran un o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 - 26 Chwefror 2021 PDF 920 KB
- Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adolygiad o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau: Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol - 25 Chwefror 2021 PDF 546 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i hawliau plant yng Nghymru - 17 Rhagfyr 2020 PDF 326 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar hawliau plant: y camau nesaf - 4 Rhagfyr 2020 PDF 208 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cynllun Hawliau Plant diwygiedig - 27 Tachwedd 2020 PDF 285 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Plant yng Nghymru ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor – 5 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig) PDF 121 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc (NACH) Ysbyty Plant Arch Noa, gyda chefnogaeth Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor – 5 Tachwedd 2020 (Saesneg yn unig) PDF 566 KB
- Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor – 5 Tachwedd 2020 PDF 469 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at randdeiliaid ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar hawliau plant Cymru - 14 Hydref 2020 PDF 207 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru - 23 Medi 2020 PDF 703 KB
- Fersiwn addas i blant - 11 Awst 2020 PDF 278 KB
- Llythyr gan Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ynghylch Hawliau Plant yng Nghymru - 8 Ionawr 2020 (Saesneg yn unig) PDF 326 KB Gweld fel HTML (14) 14 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant - 10 Rhagfyr 2019 PDF 333 KB
- Tystiolaeth atodol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 25 Tachwedd 2019 PDF 259 KB
- Tystiolaeth atodol gan Noah’s Ark, Ysbyty Plant Cymru - 20 Tachwedd 2019 (Saesneg yn unig) PDF 421 KB Gweld fel HTML (17) 31 KB
- Tystiolaeth atodol gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Phlant yng Nghymru - 15 Tachwedd 2019 (Saesneg yn unig) PDF 531 KB Gweld fel HTML (18) 21 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Asesiadau Effaith ar Hawliau Plant - 13 Tachwedd 2019 PDF 232 KB
- Papur Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 6 Tachwedd 2019 PDF 1 MB
- Tystiolaeth atodol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 18 Hydref 2019 (Saesneg yn unig) PDF 340 KB Gweld fel HTML (21) 17 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - 18 Hydref 2019 PDF 87 KB
- Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - 18 Hydref 2019 PDF 88 KB
- Tystiolaeth atodol gan Gomisiynydd Plant Cymru - 1 Hydref 2019 (Saesneg yn unig) PDF 3 MB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 23 Awst 2019 PDF 308 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 24 Gorffennaf 2019 PDF 85 KB
Ymgynghoriadau
- Hawliau plant yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)