NDM7110 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Colli Golwg
NDM7110 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Colli Golwg
NDM7110 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw
gyda nam ar eu golwg;
b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu
golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.
2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar
gyfer cleifion gofal llygaid.
3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn
perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar
gyfer apwyntiadau offthalmoleg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu
methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau
gofal llygaid ar waith;
b) datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer
offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i
ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol;
c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion
a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
d) cyhoeddi amserlen, ar frys, ar gyfer datblygu a
chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 4a a rhoi yn ei le:
bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu
cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr
Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu
anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a
digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun
cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif
Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y
misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
Cynllun
cyflawni ar gyfer gofal iechyd llygaid 2013 i 2018
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/06/2021
Angen Penderfyniad: 3 Gorff 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS