NDM7124 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Awtisiaeth
NDM7124 Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Awtisiaeth
NDM7124 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad terfynol y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig ar 1 Ebrill 2019.
2. Yn nodi ymhellach y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2019.
3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn
erbyn rhoi’r Bil Awtistiaeth (Cymru) ar waith.
4. Yn cydnabod er bod adroddiad blynyddol y Cynllun
Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2018-2019 yn
amlinellu dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth yng
Nghymru, bod diffyg mesurau canlyniadau o fewn yr adroddiad ar gyflawni’r
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig 2016.
5. Yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i
wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, bod anghysonderau yn y gwasanaeth
a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u
teuluoedd.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynaliadwyedd
hirdymor y gwasanaeth awtistiaeth integredig ac i ddarparu gwasanaethau cefnogi
awtistiaeth o ansawdd uchel drwy:
a) darparu cymorth a gwasanaethau digonol i bobl awtistig
a'u teuluoedd sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion a allai fod ganddynt;
sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr ac yn cryfhau llais
awtistiaeth drwy fynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth o awtistiaeth at rymuso
awtistiaeth;
b) datblygu system fonitro glir a chyson er mwyn gallu
adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer pobl awtistig;
c) egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y
gwasanaeth awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef
Mawrth 2021, er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau;
d) rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull
ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a
amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a
chyflogaeth;
e) gweithio i weithredu argymhellion y Gwerthusiad o'r
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn
unol â hynny:
Yn credu, er mwyn i bobl ag awtistiaeth gael y
gwasanaethau gorau posibl, fod angen ystyried niwroamrywiaeth fel mater
cydraddoldeb ynddo'i hun, a bod cael ymennydd nad yw'n niwronodweddiadol yn dod
yn nodwedd warchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau, gyda gwasanaethau
cyhoeddus yn ymateb yn unol â hynny.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 ac ailrifo’n unol â hynny.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Ym mhwynt 6, dileu popeth ar ôl is-bwynt a, a rhoi yn ei
le:
adeiladu ar y gwaith monitro sy’n bodoli o fewn
gwasanaethau er mwyn gallu adrodd yn fwy effeithiol ar ganlyniadau ar gyfer
pobl awtistig;
egluro'r trefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth
awtistiaeth integredig y tu hwnt i'r cyfnod ariannu cychwynnol, sef Mawrth
2021, unwaith y byddwn wedi cael yr eglurder yr ydym yn disgwyl amdano oddi
wrth Lywodraeth y DU ynglŷn â’n setliad ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i
hynny;
rhoi'r gwasanaeth awtistiaeth integredig o fewn dull
ehangach i gefnogi pobl awtistig a chyflawni'r 'blaenoriaethau gweithredu' a
amlinellir yn y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer
Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys cynyddu cyfleoedd addysg a chyflogaeth;
gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i weithredu
argymhellion y Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun
Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 17 Gorff 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS