Sepsis

Sepsis

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i sepsis.

 

Ym mis Ionawr 2021, trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill cyfnod y Senedd hon ac, o ystyried yr amser cyfyngedig sydd ar ôl, cytunwyd y bydd yn parhau i ganolbwyntio ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw’r Pwyllgor yn gallu parhau â’i waith ar sepsis. Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, yn ei adroddiad etifeddiaeth, gydag argymhelliad cryf bod ei bwyllgor olynol yn ailgychwyn yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl yn y Chweched Senedd. Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu eu safbwyntiau i’r ymchwiliad hwn.

 

Y cefndir

Mae sepsis wedi’i ddisgrifio fel un o'r clefydau mwyaf cyffredin, ond y lleiaf adnabyddus, yn y byd

datblygedig a'r byd sy'n datblygu. Mae’n gyflwr sy’n peryglu bywyd ac sy’n digwydd oherwydd bod adwaith y corff i haint yn niweidio’i feinweoedd a’i organau ei hun. Os na chaiff ei adnabod yn gynnar a’i drin yn brydlon, gall sepsis beri i’r organau fethu ac arwain at farwolaeth.

 

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:

  • Faint o ddealltwriaeth sydd o achosion o sepsis, sut y mae cleifion sydd â sepsis yn dod i sylw gwasanaaethau, a chanlyniadau sepsis.
  • Ymwybyddiaeth gyhoeddus a phroffesiynol o sepsis.
  • Adnabod a rheoli sepsis mewn lleoliadau’r tu allan i’r ysbyty, gan gynnwys defnyddio  dulliau / canllawiau sgrinio perthnasol, a’r broses gyfeirio rhwng gofal sylfaenol /eilaidd.
  • Adnabod / rheoli sepsis mewn lleoliadau (ysbytai) aciwt.
  • Yr effaith gorfforol a meddyliol ar y rhai sy’n goroesi sepsis, a’r cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Ymddiriedolaeth Sepsis y DU

Terence Canning, Prif Weithredwr Cymru

6 Chwefror 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr John Boulton, Cyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG, Gwelliant Cymru

Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr

 

6 Chwefror 2020

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredino

Dr Peter Saul, Cyd-Gadeirydd

 

4 Mawrth 2020

Darllenwch y trawsfrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2019

Ymgynghoriadau