NDM7133 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd Aer
NDM7133 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd Aer
NDM7133 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai yng Nghymru y mae peth o'r
ansawdd aer gwaethaf yn y DU a bod rhai ardaloedd wedi torri rheoliadau'r UE
ers sawl blwyddyn, gan arwain at gymryd Llywodraeth Cymru i'r llys am ddiffyg
gweithredu.
2. Yn gresynu bod tua 2,000 o bobl yn marw'n gynnar bob
blwyddyn (6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru) o ganlyniad i ansawdd aer
gwael.
3. Yn nodi ymhellach bod llygredd aer yn dwysáu cyflyrau
presennol ar yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac nad
oes dealltwriaeth lawn eto o effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael.
4. Yn galw ar y Cynulliad hwn i basio bil aer glân, a'i
ddeddfu, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, cyn etholiadau nesaf y Cynulliad.
5. Yn credu y dylai'r Ddeddf:
a) ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer
Sefydliad Iechyd y Byd;
b) mandadu Llywodraeth Cymru i gynhyrchu strategaeth
ansawdd aer statudol bob 5 mlynedd;
c) rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro
ac asesu llygredd aer yn briodol, a chymryd camau yn ei erbyn;
d) cyflwyno 'hawl i anadlu' lle y mae'n ofynnol i
awdurdodau lleol hysbysu grwpiau agored i niwed pan fydd rhai lefelau yn
torri'r canllawiau a argymhellir.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod lefelau annerbyniol o lygredd aer yn parhau
mewn rhai ardaloedd o Gymru, y DU ac Ewrop.
Yn gresynu at y ffaith bod rhai amcangyfrifon yn awgrymu
bod dod i gysylltiad ag ansawdd aer gwael am dymor hir yn cyfrannu at
farwolaeth cynifer â 36,000 o bobl yn y DU, a chynifer â 1,400 o bobl yng
Nghymru.
Yn nodi hefyd y gall dod i gysylltiad â llygredd aer yn y
tymor byr wneud clefydau anadlol yn waeth, fod dod i gysylltiad â llygredd aer
yn yr hirdymor yn cynyddu perygl afiachusrwydd a marwolaeth o ganser yr
ysgyfaint a chyflyrau eraill, ac y gallwn ddisgwyl i effeithiau iechyd eraill
ansawdd aer gwael ddod i’r amlwg wrth i’r ddealltwriaeth wyddonol wella.
Yn croesawu camau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru gan
gynnwys cyflwyno terfynau cyflymder parhaol o 50mya; cyflwyno ymgyrch
y Diwrnod Aer Glân a datblygu Cynllun Aer Glân i Gymru.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
ddefnyddio pob cam deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl er mwyn gwella
ansawdd aer.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnwys is-bwyntiau newydd ym mhwynt 5:
mynnu bod cerbydau sy'n defnyddio diesel yn unig a
phetrol yn unig yn cael eu dileu yn raddol erbyn 2030;
creu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd;
rhoi'r hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu
allan i ysgolion ac ysbytai;
galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a
thagfeydd;
llunio gynlluniau cenedlaethol a rhanbarthol i leihau
llygredd aer yng Nghymru;
diwygio'r gyfraith cynllunio i'w gwneud yn ofynnol y
rhoddir mwy o bwys ar effaith llygredd aer yn y system gynllunio.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 18 Medi 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS