NDM7137 Dadl Plaid Cymru - Cyfiawnder Hinsawdd
NDM7137 Dadl Plaid Cymru - Cyfiawnder Hinsawdd
NDM7137 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r alwad gan Greta Thunberg ac ymgyrchwyr
ieuenctid o Fridays for Future, i oedolion ymuno â myfyrwyr a phobl ifanc sydd
ar streic ar 20 Medi 2019 i fynnu cyfiawnder hinsawdd.
2. Yn cymeradwyo'r rôl y mae myfyrwyr a phobl ifanc
wedi'i chwarae yng Nghymru ac ar draws y byd o ran dod ag argyfwng yr hinsawdd
i sylw llunwyr polisi a'r cyhoedd.
3. Yn cefnogi'r streiciau a'r gwrthdystiadau a drefnwyd
gan bobl ifanc ac oedolion ar 20 Medi 2019.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cymeradwyo'r rôl y mae pobl ifanc wedi'i chwarae o ran
llywio'r agenda newid yn yr hinsawdd, fodd bynnag, yn credu nad
streic a phobl ifanc yn colli ysgol yw'r ateb.
Yn cydnabod y pryder cyhoeddus eang ynghylch cynhesu
byd-eang a bod cyfyngu ar y newid yn yr hinsawdd yn gofyn am ymdrech a
chydweithrediad rhyngwladol, ac yn nodi'r camau canlynol a
gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon o'r fath:
a) y rôl flaengar y mae Llywodraeth y DU wedi'i chwarae o
ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a symud i dwf glân;
b) bod y DU wedi lleihau allyriadau dros 40 y cant ers
1990 tra'n tyfu'r economi gan fwy na dwy ran o dair, sef y perfformiad gorau
fesul person nag unrhyw genedl arall yn y G7;
c) bod Llywodraeth y DU wedi gosod targed sero
net â rhwymedigaeth gyfreithiol i roi terfyn ar gyfraniad y DU i gynhesu
byd-eang yn gyfan gwbl erbyn 2050.
Yn nodi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru ond
yn gresynu at fethiant y llywodraeth i gyflwyno cyfres gynhwysfawr o fesurau
sy'n addas ar gyfer argyfwng o'r fath.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi galwad mudiad Fridays for Future ar gyfer holl
wleidyddion ac arweinwyr busnes i wrando ar bobl ifanc oherwydd bod angen eu
penderfynoldeb, eu syniadau a’u hymdrechion ar frys i sicrhau Cymru carbon
isel.
Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r
bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn 2021, gan roi llais cryfach i’r bobl ifanc hynny ynghylch sut y mae
Cymru’n wynebu’r her newid hinsawdd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 18 Medi 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS