P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed
P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed
P-05-897 Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y
gwrychoedd a’r coed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Evans, ar ôl casglu cyfanswm
o 1,508 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gwnewch hi'n drosedd i osod rhwydi yn y
gwrychoedd a'r coed i atal adar rhag nythu.
Mae datblygwyr, ac eraill sydd â diddordeb, yn
osgoi cyfreithiau sy'n diogelu adar drwy osod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed i
atal adar rhag nythu.
Mae hyn yn dadwreiddio gwrychoedd a choed sydd o
gymorth i fioamrywiaeth ac sy'n darparu'r unig safleoedd nythu sydd ar ôl i
adar y mae eu niferoedd yn dirywio'n gyflym.
Mae gosod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed yn
bygwth rhywogaethau o adar sydd ar drai, yn creu perygl o gaethiwo bywyd
gwyllt, ac yn creu llawer iawn o wastraff plastig.
Mae'r arfer hefyd yn torri deddfwriaeth
Cenedlaethau'r Dyfodol a basiwyd gan y Senedd eisoes.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb ar y sail ei bod yn anodd gweld sut y gellid symud y mater ymlaen heb
gyswllt a gwybodaeth bellach gan y deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan
y Pwyllgor Deisebau ar 17/09/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y
Cynulliad
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2019