Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol
Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad ar gaffael
cyhoeddus yn yr economi sylfaenol.
Crynodeb
Mae'r economi sylfaenol wedi ei seilio ar y
gweithgareddau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd
bob dydd, ni waeth beth fo statws cymdeithasol y defnyddwyr. Mae'r rhain yn
cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau iechyd, addysg a lles; seilwaith;
cyfleustodau; prosesu bwyd; a manwerthu a dosbarthu. Yn ddiweddar, mae
Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i gynyddu caffael cyhoeddus fel rhan o
ymgyrch i 'greu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn a chreu cyfoeth mewn
cymunedau ar draws Cymru'.
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y materion a
ganlyn:
- Beth yw’r sefyllfa bresennol o ran cyfran y contractau cyhoeddus yng
Nghymru sy'n mynd i gyflenwyr o Gymru?
- I ba raddau y gallai cynyddu 'caffael lleol' gan y sector cyhoeddus
greu cadwyni cyflenwi lleol mwy cadarn a chreu cyfoeth mewn cymunedau
ledled Cymru?
- Beth yw eich barn chi am ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer
cynyddu 'caffael lleol' gan y sector cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys
sut y caiff 'caffael lleol' ei ddiffinio a'i fonitro, sut mae egwyddorion
caffael cynaliadwy a moesegol yn cael eu cymhwyso, a sut mae'r nodau
statudol a bennwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn
cael eu cyflawni)?
- Ym mha ffyrdd y gellir cynyddu a chynnal gwario yn lleol, a chaffael
cydweithredol ymhlith busnesau bach a chanolig, a hynny wrth weithio o
fewn fframwaith caffael yr UE, ni waeth pa drefniadau sydd ar waith yn
dilyn Brexit?
- A allwch chi roi enghreifftiau o fentrau caffael cyhoeddus tebyg mewn
rhannau eraill o'r DU a'r UE?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2019
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor: Caffael yn yr Economi Sylfaenol - Chwefror 2020 PDF 1 MB
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 482 KB
Ymgynghoriadau
- Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol (Wedi ei gyflawni)