Y newid yng nghyfansoddiad Cymru

Y newid yng nghyfansoddiad Cymru

Inquiry5

 

Mae Brexit wedi ail-lunio gwahanol elfennau o gyfansoddiad Cymru, a bydd yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae Brexit wedi arwain at gyflwyno gweithdrefnau newydd ynghylch cydsyniad datganoledig mewn perthynas â deddfwriaeth y DU; ac wedi rhoi pŵer i Weinidogion y DU osod cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig; ac mae’n cyflwyno haenau newydd o lywodraethiant yn y DU fel fframweithiau cyffredin.

 

Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaeth Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad* gychwyn ymholiad gyda'r cylch gorchwyl canlynol: 

  • Ystyried cwmpas confensiwn Sewel, a’r ffordd y caiff ei gymhwyso, yng nghyd-destun y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
    • mewn perthynas â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth,
    • a yw’r canllawiau presennol ar ddatganoli sy’n ymwneud â chydsyniad yn addas i’r diben,
    • dyfarniadau diweddar y Goruchaf Lys,
    • sut y dylid dehongli “fel arfer” (“normally”) yn adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, pwy ddylai ei dehongli a sut y dylid datrys anghydfodau,
    • a ddylid sefydlu gweithdrefnau seneddol i gydnabod y confensiwn yn y broses ddeddfwriaethol,
    • profiad deddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU a’r ffordd y mae gwledydd eraill yn ymdrin â chydsyniad deddfwriaethol;
  • Ystyried y goblygiadau i setliad datganoli Cymru yn sgil lefelau newydd o lywodraethiant yn y DU o ganlyniad i Brexit, gan gynnwys:
    • datblygu fframweithiau cyffredin deddfwriaethol ac anneddfwriaethol,
    • datblygu a defnyddio cytundebau rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â Brexit,
    • pŵer Gweinidogion y DU o dan adran 109A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i cyflwynwyd gan adran 12 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018) i ‘rewi’ meysydd o gymhwysedd datganoledig dros dro;
  • Adolygu, yn ôl y gofyn, argymhellion adroddiadau’r Pwyllgor sy’n gysylltiedig â Brexit; ac
  • Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â threfniadau cyfansoddiadol y DU ar ôl Brexit, gan gynnwys diwygio cyfansoddiadol.

 

Diben hyd a lled yr ymholiad oedd caniatáu i'r Pwyllgor fod yn hyblyg yn ei ddull, i ystyried materion cyfansoddiadol sy'n dod i'r amlwg wrth i'r DU adael yr UE, a- chyhoeddi adroddiadau ar themâu fel rhan o’i waith. 

 

Bwriadwyd hefyd i ehangder yr ymchwiliad ganiatáu ar gyfer adolygu rhai o adroddiadau’r Pwyllgor sy’n gysylltiedig â Brexit, er enghraifft:

 

Roedd dechrau'r pandemig COVID-19 yn cyfyngu ar y dull a oedd yn fwriad gan y Pwyllgor. Fodd bynnag, llwyddodd y Pwyllgor i gasglu tystiolaeth gan ystod o gyfranwyr:

>>>>  

>>> trwy ymgynghoriad cyhoeddus, 

>>> mewn sesiynau tystiolaeth gyda'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol,  

>>> mewn sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru 

>>> mewn sesiwn dystiolaeth bord gron gydag arbenigwyr cyfansoddiadol.

<<< 

 

Mae Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor ar gyfer y Bumed Senedd (PDF 4.6MB) yn rhoi naratif ar yr ymchwiliad ac yn nodi nifer o gasgliadau y death y Pwyllgor iddynt.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Ionawr 2020, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/07/2019

Dogfennau

Ymgynghoriadau